Llyfr Numeri 16:14
Etto ni ddygaist ni i dir yn llifeirio o laeth a mêl, ac ni roddaist i ni feddiant mewn maes na gwinllan: a dynni di lygaid y gwŷr hyn? ni ddeuwn ni i fynu ddim.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Exodus 3:8A mi a ddisgynnais i’w gwaredu hwy o law yr Aiphtiaid, ac i’w dwyn o’r wlad honno i wlad dda a helaeth, i wlad yn llifeirio o laeth a mêl; i le y Canaaneaid, a’r Hethiaid, a’r Amoriaid, a’r Phereziaid, yr Hefiaid hefyd, a’r Jebusiaid.
Exodus 22:5¶ Os pawr un faes, neu winllan, a gyrru ei anifail i bori maes un arall; taled o’r hyn goreu yn ei faes ei hun, ac o’r hyn goreu yn ei winllan ei hun.
Leviticus 20:24Ac wrthych y dywedais, Chwi a etifeddwch eu tir hwynt; mi a’i rhoddaf i chwi i’w feddiannu; gwlad yn llifeirio o laeth a mêl: myfi yw yr Arglwydd eich Duw chwi, yr hwn a’ch neillduais chwi oddi wrth bobloedd eraill.
Numbers 20:5A phaham y dygasoch ni i fynu o’r Aipht, i’n dwyn ni i’r lle drwg yma? lle heb had, na ffigysbren, na gwinwydden, na phomgranadbren, ac heb ddwfr i’w yfed?
Judges 16:21Ond y Philistiaid a’i daliasant ef, ac a dynasant ei lygaid ef, ac a’i dygasant ef i waered i Gasa, ac a’i rhwymasant ef a gefynnau pres; ac yr oedd efe yn malu yn y carchardy. º