The Bible Software
Llyfr Numeri · Beibl (1620)

Llyfr Numeri 16

1Aaron, trwy arogl-darthu, yn attal y pla. Yna Corah, mab Ishar, mab Cohath, mab Lefi; a Dathan ac Abiram, meibion Elïab, ac On mab Peleth, meibion Reuben, a gymmerasant wŷr:

2A hwy a godasant o flaen Moses, ynghyd â dau cant a deg a deugain o wŷr eraill o feibion Israel, pennaethiaid y gynnulleidfa, pendefigion y gymmanfa, gwŷr enwog.

3Ac ymgasglasant yn erbyn Moses, ac yn erbyn Aaron, ac a ddywedasant wrthynt, Gormod i chwi hyn; canys y mae yr holl gynnulleidfa yn sanctaidd bob un o honynt, ac y mae yr Arglwydd yn eu mysg: paham yr ymgodwch goruwch cynnulleidfa yr Arglwydd?

4A phan glybu Moses, efe a syrthiodd ar ei wyneb.

5Ac efe a lefarodd wrth Corah, ac wrth ei holl gynnulleidfa ef, gan ddywedyd, Y bore y dengys yr Arglwydd yr hwn sydd eiddo ef, a’r sanctaidd; a phwy a ddylai nesâu atto ef: canys yr hwn a ddewisodd efe, a nesâ efe atto.

6Hyn a wnewch: Cymmerwch i chwi, sef Corah a’i holl gynnulleidfa, thusserau;

7A rhoddwch ynddynt dân, a gosodwch arnynt arogl-darth y fory ger bron yr Arglwydd: yna bydd i’r gwr hwnnw fod yn sanctaidd, yr hwn a ddewiso yr Arglwydd: gormod i chwi hyn, meibion Lefi.

8A dywedodd Moses wrth Corah, Gwrandêwch, attolwg, meibion Lefi.

9Ai bychan gennych neillduo o Dduw Israel chwi oddi wrth gynnulleidfa Israel, gan eich nesâu chwi atto ei hun, i wasanaethu gwasanaeth tabernacl yr Arglwydd, ac i sefyll ger bron y gynnulleidfa, i’w gwasanaethu hwynt?

10Canys efe a’th nesaodd di, a’th holl frodyr, meibion Lefi, gyd â thi: ac a geisiwch chwi yr offeiriadaeth hefyd?

11Am hynny tydi a’th holl gynnulleidfa ydych yn ymgynnull yn erbyn yr Arglwydd: ond Aaron, beth yw efe, i chwi i duchan yn ei erbyn?

12¶ A Moses a anfonodd i alw am Dathan ac Abiram, meibion Elïab. Hwythau a ddywedasant, Ni ddeuwn ni ddim i fynu.

13Ai bychan yw dwyn o honot ti ni i fynu o dir yn llifeirio o laeth a mêl, i’n lladd ni yn y diffaethwch, oddi eithr hefyd arglwyddiaethu o honot yn dost arnom ni?

14Etto ni ddygaist ni i dir yn llifeirio o laeth a mêl, ac ni roddaist i ni feddiant mewn maes na gwinllan: a dynni di lygaid y gwŷr hyn? ni ddeuwn ni i fynu ddim.

15Yna y digiodd Moses yn ddirfawr, ac y dywedodd wrth yr Arglwydd, Nac edrych ar eu hoffrwm hwy; ni chymmerais un asyn oddi arnynt, ac ni ddrygais un o honynt.

16A dywedodd Moses wrth Corah, Bydd di a’th holl gynnulleidfa ger bron yr Arglwydd, ti, a hwynt, ac Aaron, y fory.

17A chymmerwch bob un ei thusser, a rhoddwch arnynt arogl-darth; a dyged pob un ei thusser ger bron yr Arglwydd, sef dau cant a deg a deugain o thusserau: dwg dithau hefyd, ac Aaron, bob un ei thusser.

18A chymmerasant bob un ei thusser, a rhoddasant dân ynddynt, a gosodasant arogl-darth arnynt; a safasant wrth ddrws pabell y cyfarfod, ynghyd â Moses ac Aaron.

19Yna Corah a gasglodd yr holl gynnulleidfa yn eu herbyn hwynt, i ddrws pabell y cyfarfod: a gogoniant yr Arglwydd a ymddangosodd i’r holl gynnulleidfa.

20A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, ac wrth Aaron, gan ddywedyd,

21Ymneillduwch o fysg y gynnulleidfa hon, a mi a’u difaf hwynt ar unwaith.

22A hwy a syrthiasant ar eu hwynebau, ac a ddywedasant, O Dduw, Duw ysprydion pob cnawd, un dyn a bechodd, ac a ddigi di wrth yr holl gynnulleidfa?

23¶ A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd,

24Llefara wrth y gynnulleidfa, gan ddywedyd, Ewch ymaith o gylch pabell Corah, Dathan, ac Abiram.

25A chyfododd Moses, ac a aeth at Dathan ac Abiram: a henuriaid Israel a aethant ar ei ol ef.

26Ac efe a lefarodd wrth y gynnulleidfa, gan ddywedyd, Ciliwch, attolwg, oddi wrth bebyll y dynion drygionus hyn, ac na chyffyrddwch â dim o’r eiddynt; rhag eich difetha yn eu holl bechodau hwynt.

27Yna yr aethant oddi wrth babell Corah, Dathan, ac Abiram, o amgylch: a Dathan ac Abiram, eu gwragedd hefyd, a’u meibion, a’u plant, a ddaethant allan, gan sefyll wrth ddrws eu pebyll.

28A dywedodd Moses, Wrth hyn y cewch wybod mai yr Arglwydd a’m hanfonodd i wneuthur yr holl weithredoedd hyn; ac nad o’m meddwl fy hun y gwneuthum hwynt.

29Os bydd y rhai hyn feirw fel y bydd marw pob dyn, ac os ymwelir â hwynt ag ymwelediad pob dyn; nid yr Arglwydd a’m hanfonodd i.

30Ond os yr Arglwydd a wna newydd-beth, fel yr agoro y ddaear ei safn, a’u llyngcu hwynt, a’r hyn oll sydd eiddynt, fel y disgynont yn fyw i uffern; yna y cewch wybod ddigio o’r gwŷr hyn yr Arglwydd.

31¶ A bu, wrth orphen o hono lefaru yr holl eiriau hyn, hollti o’r ddaear oedd danynt hwy.

32Agorodd y ddaear hefyd ei safn, a llyngcodd hwynt, a’u tai hefyd, a’r holl ddynion oedd gan Corah, a’ u holl gyfoeth.

33A hwynt, a’r rhai oll a’r a oedd gyd â hwynt, a ddisgynasant yn fyw i uffern; a’r ddaear a gauodd arnynt: a difethwyd hwynt o blith y gynnulleidfa.

34A holl Israel, y rhai oedd o’u hamgylch hwynt, a ffoisant wrth eu gwaedd hwynt: canys dywedasant, Ciliwn, rhag i’r ddaear ein llyngcu ninnau.

35Tân hefyd a aeth allan oddi wrth yr Arglwydd, ac a ddifaodd y dau cant a’r deg a deugain o wŷr oedd yn offrymmu yr arogl-darth.

36¶ A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd,

37Dywed wrth Eleazar, mab Aaron yr offeiriad, am godi o hono efe y thusserau o fysg y llosg; a gwasgara y tân oddi yno allan: canys sanctaidd ydynt:

38Sef thusserau y rhai hyn a bechasant yn erbyn eu heneidiau eu hun; a gweithier hwynt yn ddalennau llydain, i fod yn gaead i’r allor; canys offrymmasant hwynt ger bron yr Arglwydd; am hynny sanctaidd ydynt: a byddant yn arwydd i feibion Israel.

39A chymmerodd Eleazar yr offeiriad y thusserau pres, â’r rhai yr offrymmasai y gwŷr a losgasid; ac estynwyd hwynt yn gaead i’r allor:

40Yn goffadwriaeth i feibion Israel; fel na nesâo gwr dïeithr, yr hwn ni byddo o had Aaron, i losgi arogl-darth ger bron yr Arglwydd; ac na byddo fel Corah a’i gynnulleidfa: megis y llefarasai yr Arglwydd trwy law Moses wrtho ef.

41¶ A holl gynnulleidfa meibion Israel a duchanasant drannoeth yn erbyn Moses, ac yn erbyn Aaron, gan ddywedyd, Chwi a laddasoch bobl yr Arglwydd.

42A bu, wedi ymgasglu o’r gynnulleidfa yn erbyn Moses ac Aaron, edrych o honynt ar babell y cyfarfod: ac wele, toasai y cwmmwl hi, ac ymddangosodd gogoniant yr Arglwydd.

43Yna y daeth Moses ac Aaron o flaen pabell y cyfarfod.

44¶ A’r Arglwydd a lefarodd wrth Moses, gan ddywedyd,

45Ciliwch o blith y gynnulleidfa hon, a mi a’u difaf hwynt yn ddisymmwth. A hwy a syrthiasant ar eu hwynebau.

46¶ Dywedodd Moses hefyd wrth Aaron, Cymmer thusser, a dod dân oddi ar yr allor ynddi, a gosod arogl-darth arni, a dos yn fuan at y gynnulleidfa, a gwna gymmod drostynt: canys digofaint a aeth allan oddi ger bron yr Arglwydd, dechreuodd y pla.

47A chymmerodd Aaron megis y llefarodd Moses, ac a redodd i ganol y gynnulleidfa; ac wele, dechreuasai y pla ar y bobl: ac efe a rodd arogl-darth, ac a wnaeth gymmod dros y bobl.

48Ac efe a safodd rhwng y meirw a’r byw; a’r pla a attaliwyd.

49A’r rhai a fuant feirw o’r pla oedd bedair mil ar ddeg a saith gant, heb law y rhai a fuant feirw yn achos Corah.

50A dychwelodd Aaron at Moses i ddrws pabell y cyfarfod: a’r pla a attaliwyd.

← Llyfr Numeri 15Read In The App, Free →Llyfr Numeri 17 →

Study Llyfr Numeri 16

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

123456789101112131415161718192021222324252627282930313233343536