Llyfr Numeri 18:11
Hyn hefyd fydd i ti; offrwm dyrchafael eu rhoddion hwynt, ynghyd â holl offrymmau cyhwfan meibion Israel: i ti y rhoddais hwynt, ac i’th feibion, ac i’th ferched gyd â thi, trwy ddeddf dragywyddol: pob un glân yn dy dŷ a gaiff fwytta o hono.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
10O fewn y cyssegr sanctaidd y bwyttêi ef; pob gwrryw a’i bwytty ef: cyssegredig fydd efe i ti.
Cross References
Exodus 29:27A sancteiddia barwyden yr offrwm cyhwfan, ac ysgwyddog yr offrwm dyrchafael, yr hon a gyhwfanwyd, a’r hon a ddyrchafwyd, o hwrdd y cyssegriad, o’r hwn a fyddo dros Aaron, ac o’r hwn a fyddo dros ei feibion.
Leviticus 7:30Ei ddwylo a ddygant ebyrth tanllyd yr Arglwydd; y gwer ynghyd â’r barwyden a ddwg efe; y barwyden fydd i’w chyhwfanu, yn offrwm cyhwfan ger bron yr Arglwydd.
Leviticus 22:1Y gyfraith am fwytta yr aberth dïolch. A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd,
Leviticus 22:11Ond pan bryno yr offeiriad ddyn am ei arian, hwnnw a gaiff fwytta o hono, a’r hwn a aner yn ei dŷ ef: y rhai hyn a gânt fwytta o’i fara ef.
Deuteronomy 18:3¶ A hyn fydd defod yr offeiriaid oddi wrth y bobl, oddi wrth y rhai a aberthant aberth, pa un bynnag ai eidion ai dafad; rhoddant i’r offeiriad yr ysgwyddog, a’r ddwy ên, a’r botten.