Llyfr Numeri 18
1Rhoddi yr offrwm dyrchafael i’r offeiriaid allan o ran y Lefiaid. A dywedodd yr Arglwydd wrth Aaron, Tydi a’th feibion, a thylwyth dy dad gyd â thi, a ddygwch anwiredd y cyssegr: a thi a’th feibion gyd â thi a ddygwch anwiredd eich offeiriadaeth.
2A dwg hefyd gyd â thi dy frodyr o lwyth Lefi, sef llwyth dy dad, i lynu wrthyt ti, ac i’th wasanaethu: tithau a’th feibion gyd â thi a wasanaethwch ger bron pabell y dystiolaeth.
3A hwy a gadwant dy gadwraeth di, a chadwraeth yr holl babell: ond na ddeuant yn agos at ddodrefn y cyssegr, nac at yr allor, rhag eu marw hwynt, a chwithau hefyd.
4Ond hwy a lynant wrthyt, ac a oruchwyliant babell y cyfarfod, yn holl wasanaeth y babell: ac na ddeued y dïeithr yn agos attoch.
5Eithr cedwch chwi oruchwyliaeth y cyssegr, a goruchwyliaeth yr allor; fel na byddo digofaint mwy yn erbyn meibion Israel.
6Ac wele, mi a gymmerais dy frodyr di, y Lefiaid, o fysg meibion Israel: i ti y rhoddwyd hwynt, megis rhodd i’r Arglwydd, i wasanaethu gwasanaeth pabell y cyfarfod.
7Tithau a’th feibion gyd â thi a gedwch eich offeiriadaeth; ynghylch pob peth a berthyn i’r allor, ac o fewn y llèn wahan, y gwasanaethwch: yn wasanaeth rhodd y rhodd ais eich offeiriadaeth i chwi; a’r dïeithr a ddelo yn agos, a leddir.
8¶ A llefarodd yr Arglwydd wrth Aaron, Wele, mi a roddais i ti hefyd oruchwyliaeth fy offrymmau dyrchafael, o holl gyssegredig bethau meibion Israel; rhoddais hwynt i ti, o herwydd yr enneiniad, ac i’th feibion, trwy ddeddf dragywyddol.
9Hyn fydd i ti o’r pethau sancteiddiolaf a gedwir allan o’r tân: eu holl offrymmau hwynt, eu holl fwyd-offrwm, a’u holl aberthau dros bechod, a’u holl aberthau dros gamwedd, y rhai a dalant i mi, fyddant sancteiddiolaf i ti, ac i’th feibion.
10O fewn y cyssegr sanctaidd y bwyttêi ef; pob gwrryw a’i bwytty ef: cyssegredig fydd efe i ti.
11Hyn hefyd fydd i ti; offrwm dyrchafael eu rhoddion hwynt, ynghyd â holl offrymmau cyhwfan meibion Israel: i ti y rhoddais hwynt, ac i’th feibion, ac i’th ferched gyd â thi, trwy ddeddf dragywyddol: pob un glân yn dy dŷ a gaiff fwytta o hono.
12Holl oreuon yr olew, a holl oreuon y gwin a’r ŷd, sef eu blaenffrwyth hwynt yr hwn a roddant i’r Arglwydd, i roddais i ti.
13Blaen-ffrwyth pob dim yn eu tir hwynt yr hwn a ddygant i’r Arglwydd, fydd eiddot ti: pob un glân yn dy dŷ a fwytty o hono.
14Pob dïofryd-beth yn Israel fydd eiddot ti.
15Pob peth a agoro y groth o bob cnawd yr hwn a offrymmir i’r Arglwydd, o ddyn ac o anifail, fydd eiddot ti: ond gan brynu y pryni bob cyntaf-anedig i ddyn; a phryn y cyntaf-anedig i’r anifail aflan.
16A phâr brynu y rhai a bryner o honot, o fab misyriad, yn dy bris di, er pùm sicl o arian, wrth sicl y cyssegr: ugain gerah yw hynny.
17Ond na phryn y cyntaf-anedig o eidion, neu gyntaf-anedig dafad, neu gyntaf-anedig gafr; sanctaidd ydynt hwy: eu gwaed a daenelli ar yr allor, a’u gwer a losgi yn aberth tanllyd, o arogl peraidd i’r Arglwydd.
18Ond eu cig fydd eiddot ti; fel parwyden y cyhwfan, ac fel yr ysgwyddog ddehau, y mae yn eiddot ti.
19Holl offrymmau dyrchafael y pethau sanctaidd, y rhai a offrymmo meibion Israel i’r Arglwydd, a roddais i ti, ac i’th feibion, ac i’th ferched gyd â thi, trwy ddeddf dragywyddol: cyfammod halen tragywyddol fydd hyn, ger bron yr Arglwydd, i ti, ac i’th had gyd â thi.
20¶ A dywedodd yr Arglwydd wrth Aaron, Na fydded i ti etifeddiaeth yn eu tir hwynt, ac na fydded i ti ran yn eu mysg hwynt: myfi yw dy ran di, a’th etifeddiaeth, ym mysg meibion Israel.
21Ac wele, mi a roddais i feibion Lefi bob degwm yn Israel, yn etifeddiaeth, am eu gwasanaeth y maent yn ei wasanaethu, sef gwasanaeth pabell y cyfarfod.
22Ac na ddeued meibion Israel mwyach yn agos i babell y cyfarfod; rhag iddynt ddwyn pechod, a marw.
23Ond gwasanaethed y Lefiaid wasanaeth pabell y cyfarfod, a dygant eu hanwiredd: deddf dragywyddol fydd hyn trwy eich cenhedlaethau, nad etifeddant hwy etifeddiaeth ym mysg meibion Israel.
24Canys degwm meibion Israel, yr hwn a offrymmant yn offrwm dyrchafael i’r Arglwydd, a roddais i’r Lefiaid yn etifeddiaeth: am hynny y dywedais wrthynt, nad etifeddent etifeddiaeth ym mysg meibion Israel.
25¶ A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd,
26Llefara hefyd wrth y Lefiaid, a dywed wrthynt, Pan gymmeroch gan feibion Israel y degwm a roddais i chwi yn etifeddiaeth oddi wrthynt; yna offrymmwch o hynny offrwm dyrchafael i’r Arglwydd, sef degwm o’r degwm.
27A chyfrifir i chwi eich offrwm dyrchafael, fel yr ŷd o’r ysgubor, ac fel cyflawnder o’r gwin-wrŷf.
28Felly yr offrymmwch chwithau hefyd offrwm dyrchafael i’r Arglwydd, o’ch holl ddegymmau a gymmeroch gan feibion Israel; a rhoddwch o hynny ddyrchafael-offrwm yr Arglwydd i Aaron yr offeiriad.
29O’ch holl roddion offrymmwch bob offrwm dyrchafael yr Arglwydd o bob goreu o hono, sef y rhan gyssegredig, allan o hono ef.
30A dywed wrthynt, Pan ddyrchafoch ei oreuon allan o hono, cyfrifir i’r Lefiaid fel toreth yr ysgubor, a thoreth y gwin-wrŷf.
31A bwyttêwch ef ym mhob lle, chwi a’ch tylwyth: canys gwobr yw efe i chwi, am eich gwasanaeth ym mhabell y cyfarfod.
32Ac ni ddygwch bechod o’i herwydd, gwedi y dyrchafoch ei oreuon o hono: na halogwch chwithau bethau sanctaidd meibion Israel; fel na byddoch feirw.