Llyfr Numeri 20:15
Pa wedd yr aeth ein tadau i waered i’r Aipht, ac yr arhosasom yn yr Aipht lawer o ddyddiau; ac y drygodd yr Aiphtiaid ni, a’n tadau.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Genesis 46:6Cymmerasant hefyd eu hanifeiliaid, a’u golud a gasglasent yn nhir Canaan, ac a ddaethant i’r Aipht, Jacob, a’i holl had gyd âg ef:
Exodus 1:11Am hynny y gosodasant arnynt feistriaid-gwaith, i’w gorthrymmu â’u beichiau; a hwy a adeiladasant i Pharaoh ddinasoedd trysorau, sef Pithom a Raamses.
Exodus 1:22A Pharaoh a orchymynodd i’w holl bobl, gan ddywedyd, Pob mab a’r a enir, bwriwch ef i’r afon; ond cedwch yn fyw bob merch.
Exodus 12:40¶ A phreswyliad meibion Israel, tra y y trigasant yn yr Aipht, oedd ddeng mlynedd ar hugain a phedwar càn mlynedd.
Numbers 16:13Ai bychan yw dwyn o honot ti ni i fynu o dir yn llifeirio o laeth a mêl, i’n lladd ni yn y diffaethwch, oddi eithr hefyd arglwyddiaethu o honot yn dost arnom ni?
2 Samuel 12:18Ac ar y seithfed dydd y bu farw y plentyn. A gweision Dafydd a ofnasant fynegi iddo ef farw y bachgen: canys dywedasant, Wele, tra oedd y bachgen yn fyw y llefarasom wrtho, ond ni wrandawai ar ein llais, pa fodd gan hynny yr ymofidia, os dywedwn wrtho farw y plentyn? º