The Bible Software
Llyfr Numeri · Beibl (1620)

Llyfr Numeri 20

1Aaron yn rhoddi i fynu ei le i Eleazar, ac yn marw. A meibion Israel, sef yr holl gynnulleidfa, a ddaethant i anialwch Sin yn y mis cyntaf; ac arhôdd y bobl yn Cades; yno hefyd y bu farw Miriam: ac yno y claddwyd hi.

2Ac nid oedd dwfr i’r gynnulleidfa: a hwy a ymgasglasant yn erbyn Moses ac Aaron.

3Ac ymgynhennodd y bobl â Moses, a llefarasant, gan ddywedyd, O na buasem feirw pan fu feirw ein brodyr ger bron yr Arglwydd!

4Paham y dygasoch gynnulleidfa yr Arglwydd i’r anialwch hwn, i farw o honom ni a’n hanifeiliaid ynddo?

5A phaham y dygasoch ni i fynu o’r Aipht, i’n dwyn ni i’r lle drwg yma? lle heb had, na ffigysbren, na gwinwydden, na phomgranadbren, ac heb ddwfr i’w yfed?

6A daeth Moses ac Aaron oddi ger bron y gynnulleidfa, i ddrws pabell y cyfarfod; ac a syrthiasant ar eu hwynebau: a gogoniant yr Arglwydd a ymddangosodd iddynt.

7¶ A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd,

8Cymmer y wïalen, a chasgl y gynnulleidfa, ti ac Aaron dy frawd; ac yn eu gŵydd hwynt lleferwch wrth y graig, a hi a rydd ei dwfr: a thyn dithau iddynt ddwfr o’r graig, a dïoda y gynnulleidfa a’u hanifeiliaid.

9A Moses a gymmerodd y wïalen oddi ger bron yr Arglwydd, megis y gorchymynasai efe iddo.

10A Moses ac Aaron a gynnullasant y dyrfa ynghyd o flaen y graig: ac efe a ddywedodd wrthynt, Gwrandêwch yn awr, chwi wrthryfelwyr; Ai o’r graig hon y tynnwn i chwi ddwfr?

11A Moses a gododd ei law, ac a darawodd y graig ddwy waith â’i wïalen: a daeth dwfr lawer allan; a’r gynnulleidfa a yfodd, a’u hanifeiliaid hefyd.

12¶ A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, ac wrth Aaron, Am na chredasoch i mi, i’m sancteiddio y’ngŵydd meibion Israel: am hynny ni ddygwch y dyrfa hon i’r tir a roddais iddynt.

13Dyma ddyfroedd Meribah; lle yr ymgynhennodd meibion Israel â’r Arglwydd; ac y sancteiddiwyd ef ynddynt.

14¶ A Moses a anfonodd genhadon o Cades at frenhin Edom, gan ddywedyd, Fel hyn y dywed Israel dy frawd; Ti a wyddost yr holl flinder a gawsom ni:

15Pa wedd yr aeth ein tadau i waered i’r Aipht, ac yr arhosasom yn yr Aipht lawer o ddyddiau; ac y drygodd yr Aiphtiaid ni, a’n tadau.

16A ni a waeddasom ar yr Arglwydd; ac efe a glybu ein llef ni, ac a anfonodd angel, ac a’n dug ni allan o’r Aipht: ac wele ni yn Cades, dinas ar gwrr dy ardal di.

17Attolwg, gâd i ni fyned trwy dy wlad: nid awn trwy faes, na gwinllan, ac nid yfwn ddwfr un ffynnon: prif -ffordd y brenhin a gerddwn; ni thrown ar y llaw ddehau nac ar y llaw aswy, nes i ni fyned allan o’th derfynau di.

18A dywedodd Edom wrtho, Na thyred heibio i mi, rhag i mi ddyfod â’r cleddyf i’th gyfarfod.

19A meibion Israel a ddywedasant wrtho, Ar hyd y brif-ffordd yr awn i fynu; ac os myfi neu fy anifeiliaid a yfwn o’th ddwfr di, rhoddaf ei werth ef; yn unig ar fy nhraed yr âf trwodd yn ddiniwed.

20Yntau a ddywedodd, Ni chei fyned trwodd. A daeth Edom allan i gyfarfod âg ef, â phobl lawer, ac a llaw gref.

21Felly Edom a naccaodd roddi ffordd i Israel trwy ei fro: am hynny Israel a drodd oddi wrtho ef.

22¶ A meibion Israel, sef yr holl gynnulleidfa, a deithiasant o Cades, ac a ddaethant i fynydd Hor.

23A’r Arglwydd a lefarodd wrth Moses ac Aaron ym mynydd Hor, wrth derfyn tir Edom, gan ddywedyd,

24Aaron a gesglir at ei bobl: ac ni ddaw i’r tir a roddais i feibion Israel; am i chwi anufuddhâu i’m gair, wrth ddwfr Meribah.

25Cymmer Aaron ac Eleazar ei fab, a dwg hwynt i fynu i fynydd Hor;

26A dïosg ei wisgoedd oddi am Aaron, a gwisg hwynt am Eleazar ei fab ef: canys Aaron a gesglir at ei bobl, ac a fydd farw yno.

27A gwnaeth Moses megis y gorchymynodd yr Arglwydd: a hwy a aethant i fynu i fynydd Hor, yng ngŵydd yr holl gynnulleidfa.

28A dïosgodd Moses oddi am Aaron ei wisgoedd, ac a’u gwisgodd hwynt am Eleazar ei fab ef: a bu farw Aaron yno ym mhen y mynydd. A disgynodd Moses ac Eleazar o’r mynydd.

29A’r holl gynnulleidfa a welsant farw Aaron, a holl dŷ Israel a wylasant am Aaron ddeng niwrnod ar hugain.

← Llyfr Numeri 19Read In The App, Free →Llyfr Numeri 21 →

Study Llyfr Numeri 20

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

123456789101112131415161718192021222324252627282930313233343536