Llyfr Numeri 21:2
Ac addunodd Israel adduned i’r Arglwydd, ac a ddywedodd, Os gan roi y rhoddi y bobl yma yn fy llaw, yna mi a ddifrodaf eu dinasoedd hwynt.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Genesis 28:20Yna yr addunodd Jacob adduned, gan ddywedyd, Os Duw fydd gyd â myfi, ac a’m ceidw yn y ffordd yma, yr hon yr ydwyf yn ei cherdded, a rhoddi i mi fara i’w fwytta, a dillad i’w gwisgo,
Leviticus 27:29Ni cheir gollwng yn rhydd un anifail dïofrydog, yr hwn a ddïofryder gan ddyn: lladder yn farw.
Deuteronomy 13:15Gan daro taro drigolion y ddinas honno â min y cleddyf; difroda hi, a’r rhai oll a fyddant ynddi, a’i hanifeiliaid hefyd, â min y cleddyf.
Joshua 6:17¶ A’r ddinas fydd yn ddïofryd-beth, hi, a’r hyn oll sydd ynddi, i’r Arglwydd: yn unig Rahab y butteinwraig fydd byw, hi a chwbl ag sydd gyd â hi yn tŷ; canys hi a guddiodd y cenhadau a anfonasom ni.
Judges 11:30A Jefftha a addunedodd adduned i’r ARGLWYDD, ac a ddywedodd, Os gan roddi y rhoddi di feibion Ammon yn fy llaw i; º
2 Samuel 15:7Ac ymhen deugain mlynedd y dywedodd Absalom wrth y brenin, Gad i mi fyned, atolwg, a thalu fy adduned a addunedais i’r Arglwydd, yn Hebron.