The Bible Software
Llyfr Numeri · Beibl (1620)

Llyfr Numeri 21

1ac Og. A’r brenhin Arad, y Canaanead, preswylydd y dehau, a glybu fod Israel yn dyfod ar hyd ffordd yr ysbïwyr; ac a ryfelodd yn erbyn Israel, ac a ddaliodd rai o honynt yn garcharorion.

2Ac addunodd Israel adduned i’r Arglwydd, ac a ddywedodd, Os gan roi y rhoddi y bobl yma yn fy llaw, yna mi a ddifrodaf eu dinasoedd hwynt.

3A gwrandawodd yr Arglwydd ar lais Israel; ac a roddodd y Canaaneaid yn ei law ef; ac efe a’u difrododd hwynt, a’u dinasoedd; ac a alwodd enw y lle hwnnw Hormah.

4¶ A hwy a aethant o fynydd Hor, ar hyd ffordd y môr coch, i amgylchu tir Edom: a chyfyng ydoedd ar enaid y bobl, o herwydd y ffordd.

5A llefarodd y bobl yn erbyn Duw, ac yn erbyn Moses, Paham y dygasoch ni o’r Aipht, i farw yn yr anialwch? canys nid oes na bara na dwfr; a ffiaidd yw gan ein henaid y bara gwael hwn.

6A’r Arglwydd a anfonodd ym mysg y bobl seirph tanllyd; a hwy a frathasant y bobl: a bu feirw o Israel bobl lawer.

7¶ A daeth y bobl at Moses, a dywedasant, Pechasom; canys llefarasom yn erbyn yr Arglwydd, ac yn dy erbyn dithau: gweddïa ar yr Arglwydd, ar yrru o hono ef y seirph oddi wrthym. A gweddïodd Moses dros y bobl.

8A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, Gwna i ti sarph danllyd, a gosod ar drostan: a phawb a frather, ac a edrycho ar honno, fydd byw.

9A gwnaeth Moses sarph bres, ac a’i gosododd ar drostan: yna os brathai sarph wr, ac edrych o hono ef ar y sarph bres, byw fyddai.

10¶ A meibion Israel a gychwynasant oddi yno, ac a wersyllasant yn Oboth.

11A hwy a aethant o Oboth, ac a wersyllasant y’ngharneddau Abarim, yn yr anialwch, yr hwn oedd ar gyfer Moab, tu a chodiad haul.

12¶ Cychwynasant oddi yno, a gwersyllasant wrth afon Zared.

13Cychwynasant oddi yno, a gwersyllasant wrth ryd Arnon, yr hon sydd yn yr anialwch, yn dyfod allan o ardal yr Amoriaid: canys Amon oedd derfyn Moab, rhwng Moab a’r Amoriaid.

14Am hynny dywedir yn llyfr rhyfeloedd yr Arglwydd, Y peth a wnaeth efe yn y môr coch, ac yn afonydd Arnon,

15Ac wrth raiadr yr afonydd, yr hwn a dreigla i breswylfa Ar, ac a bwysa at derfyn Moab.

16Ac oddi yno yr aethant i Beer: honno yw y ffynnon lle y dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, Casgl y bobl ynghyd, a mi a roddaf iddynt ddwfr.

17¶ Yna y canodd Israel y gân hon: Cyfod, ffynnon; cenwch iddi.

18Ffynnon a gloddiodd y tywysogion, ac a gloddiodd pennaethiaid y bobl, ynghyd â’r deddfwr, â’u ffyn. Ac o’r anialwch yr aethant i Mattanah:

19Ac o Mattanah i Nahaliel; ac o Nahaliel i Bamoth:.

20Ac o Bamoth, yn y dyffryn sydd y’ngwlad Moab, i ben y bryn sydd yn edrych tu a’r diffaethwch.

21¶ Yna yr anfonodd Israel genhadau at Sehon brenhin yr Amoriaid, gan ddywedyd,

22Gâd i mi fyned trwy dy dir: ni thrown i faes, na gwinllan; nid yfwn ddwfr un ffynnon: ar hyd ffordd y brenhin y cerddwn, hyd onid elom allan o’th derfynau di.

23Ac ni roddodd Sehon i Israel ffordd trwy ei wlad: ond casglodd Sehon ei holl bobl, ac a aeth allan yn erbyn Israel i’r anialwch: ac efe a ddaeth i Jahas, ac a ymladdodd yn erbyn Israel.

24Ac Israel a’i tarawodd ef â min y cleddyf; ac a oresgynodd ei dir ef, o Arnon hyd Jabboc, hyd at feibion Ammon: canys cadarn oedd terfyn meibion Ammon.

25A chymmerodd Israel yr holl ddinasoedd hynny: a thrigodd Israel yn holl ddinasoedd yr Amoriaid, yn Hesbon, ac yn ei holl bentrefydd.

26Canys dinas Sehon, brenhin yr Amoriaid, ydoedd Hesbon, ac yntau a ryfelasai yn erbyn brenhin Moab, yr hwn a fuasai o’r blaen, ac a ddug ei dir ef oddi arno, hyd Arnon.

27Am hynny y dywed y dïarhebwyr, Deuwch i Hesbon; adeilader a chadarnhâer dinas Sehon.

28Canys tân a aeth allan o Hesbon, a fflam o ddinas Sehon: bwytaodd Ar ym Moab, a pherchennogion Bamoth Arnon.

29Gwae di, Moab; darfu am danat, bobl Cemos: rhoddodd ei feibion dïangol, a’i ferched, mewn caethiwed i Sehon brenhin yr Amoriaid.

30Saethasom hwynt: darfu am Hesbon, hyd Dibon: ac anrheithiasom hyd Nophah, yr hon sydd hyd Medeba.

31¶ A thrigodd Israel yn nhir yr Amoriaid.

32A Moses a anfonodd i chwilio Jazer: a hwy a orchfygasant ei phentrefydd hi, ac a yrrasant ymaith yr Amoriaid y rhai oedd yno.

33¶ Troisant hefyd ac aethant i fynu hyd ffordd Basan: ac Og brenhin Basan a ddaeth allan yn eu herbyn hwynt i ryfel, hyd Edrei, efe a’i holl bobl.

34A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, Nac ofna ef: canys yn dy law di y rhoddais ef, a’i holl bobl, a’i dir; a gwnei iddo ef megis y gwnaethost i Sehon brenhin yr Amoriaid, yr hwn oedd yn trigo yn Hesbon.

35Am hynny y tarawsant ef, a’i feibion, a’i holl bobl, fel na adawyd iddo ef weddill: a hwy a berchennogasant ei dir ef.

← Llyfr Numeri 20Read In The App, Free →Llyfr Numeri 22 →

Study Llyfr Numeri 21

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

123456789101112131415161718192021222324252627282930313233343536