Llyfr Numeri 21:34
A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, Nac ofna ef: canys yn dy law di y rhoddais ef, a’i holl bobl, a’i dir; a gwnei iddo ef megis y gwnaethost i Sehon brenhin yr Amoriaid, yr hwn oedd yn trigo yn Hesbon.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Numbers 14:9Yn unig na wrthryfelwch yn erbyn yr Arglwydd, ac nac ofnwch bobl y tir; canys bara i ni ydynt: ciliodd eu hamddiffyn oddi wrthynt, a’r Arglwydd sydd gyd â ni: nac ofnwch hwynt.
Deuteronomy 2:30Ond ni fynnai Sehon brenhin Hesbon ein gollwng heb ei law: oblegid yr Arglwydd dy Dduw a galedasai ei yspryd ef, ac a gadarnhasai ei galon ef, er mwyn ei roddi ef yn dy law di; megis heddyw y gwelir.
Deuteronomy 3:2A’r Arglwydd a ddywedodd wrthyf, Nac ofna ef: oblegid yn dy law di y rhoddaf ef, a’i holl bobl, a’i wlad; a thi a wnei iddo fel y gwnaethost i Sehon brenhin yr Amoriaid, yr hwn oedd yn trigo yn Hesbon.
Deuteronomy 7:17Os dywedi yn dy galon, Llïosocach yw y cenhedloedd hyn na myfi; pa ddelw y gallaf eu gyrru hwynt ymaith?
Deuteronomy 7:21Nac ofna rhagddynt: oblegid yr Arglwydd dy Dduw sydd yn dy ganol di, yn Dduw mawr, ac ofnadwy.
Deuteronomy 20:3A dywedyd wrthynt, Clyw, Israel: Yr ydych chwi yn nesâu heddyw i’r frwydr yn erbyn eich gelynion: na feddalhâed eich calon, nac ofnwch, na synnwch, ac na ddychrynwch rhagddynt.