Llyfr Numeri 24:1
Yntau yn prophwydo am seren Jacob, a dinystr rhai gwledydd. Pan welodd Balaam mai da oedd y’ngolwg yr Arglwydd fendithio Israel; nid aeth efe, megis o’r blaen, i gyrchu dewiniaeth; ond gosododd ei wyneb tu a’r anialwch.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
2A chododd Balaam ei lygaid: ac wele Israel yn pebyllio yn ol ei lwythau: a daeth yspryd Duw arno ef.
Cross References
Numbers 22:13A Balaam a gododd y bore, ac a ddywedodd wrth dywysogion Balac, Ewch i’ch gwlad: oblegid yr Arglwydd a naccaodd adael i mi fyned gyd â chwi.
Numbers 23:15Ac a ddywedodd wrth Balac, Saf yma wrth dy boeth-offrwm, a mi a âf accw i gyfarfod â’r Arglwydd.
Numbers 23:23Canys nid oes swyn yn erbyn Jacob, na dewiniaeth yn erbyn Israel: y pryd hwn y dywedir am Jacob, ac am Israel, Beth a wnaeth Duw!
Numbers 31:16Wele, hwynt, trwy air Balaam, a barasant i feibion Israel wneuthur camwedd yn erbyn yr Arglwydd yn achos Peor; a bu pla y’nghynnulleidfa yr Arglwydd.
1 Samuel 26:2Yna y cyfododd Saul, ac a aeth i waered i anialwch Siff, a thair mil o etholedigion gwŷr Israel gydag ef, i geisio Dafydd yn anialwch Siff. º
Revelation 2:14Eithr y mae gennyf ychydig bethau yn dy erbyn di, oblegid bod gennyt yno rai yn dal athrawiaeth Balaam, yr hwn a ddysgodd i Balac fwrw rhwystr gerbron meibion Israel, i fwyta pethau wedi eu haberthu i eilunod, ac i odinebu.