Llyfr Numeri 24
1Yntau yn prophwydo am seren Jacob, a dinystr rhai gwledydd. Pan welodd Balaam mai da oedd y’ngolwg yr Arglwydd fendithio Israel; nid aeth efe, megis o’r blaen, i gyrchu dewiniaeth; ond gosododd ei wyneb tu a’r anialwch.
2A chododd Balaam ei lygaid: ac wele Israel yn pebyllio yn ol ei lwythau: a daeth yspryd Duw arno ef.
3Ac efe a gymmerodd ei ddammeg, ac a ddywedodd, Balaam mab Beor a ddywed, a’r gwr a agorwyd ei lygaid, a ddywedodd;
4Gwrandawydd geiriau Duw a ddywedodd, yr hwn a welodd weledigaeth yr Hollalluog, yr hwn a syrthiodd, ac a agorwyd ei lygaid:
5Mor hyfryd yw dy bebyll di, O Jacob! dy gyfanneddau di, O Israel!
6Ymestynant fel dyffrynoedd, ac fel gerddi wrth afon, fel aloewydd a blannodd yr Arglwydd, fel y cedrwydd wrth ddyfroedd.
7Efe a dywallt ddwfr o’i ystenau, a’i had fydd mewn dyfroedd lawer, a’i frenhin a ddyrchefir yn uwch nag Agag, a’i frenhiniaeth a ymgyfyd.
8Duw a’i dug ef allan o’r Aipht; megis nerth unicorn sydd iddo: efe a fwytty y cenhedloedd ei elynion, ac a ddryllia eu hesgyrn, ac â’i saethau y gwana efe hwynt.
9Efe a grymma, ac a orwedd fel llew, ac fel llew mawr: pwy a’i cyfyd ef? Bendigedig fydd dy fendithwyr, a melldigedig dy felldithwyr.
10¶ Ac ennynodd dig Balac yn erbyn Balaam; ac efe a darawodd ei ddwylaw ynghyd. Dywedodd Balac hefyd wrth Balaam, I regu fy ngelynion y’th gyrchais; ac wele, ti gan fendithio a’ u bendithiaist y tair gwaith hyn.
11Am hynny yn awr ffo i’th fangre dy hun: dywedais, gan anrhydeddu y’th anrhydeddwn; ac wele, attaliodd yr Arglwydd di oddi wrth anrhydedd.
12A dywedodd Balaam wrth Balac, Oni leferais wrth dy genhadau a anfonaist attaf, gan ddywedyd,
13Pe rhoddai Balac i mi arian ac aur lonaid ei dŷ, ni allwn droseddu gair yr Arglwydd, i wneuthur da neu ddrwg o’m meddwl fy hun: yr hyn a lefaro yr Arglwydd, hynny a lefaraf fi?
14Ond yr awr hon, wele fi yn myned at fy mhobl: tyred, mi a fynegaf i ti yr hyn a wna y bobl hyn i’th bobl di yn y dyddiau diweddaf.
15¶ Ac efe a gymmerth ei ddammeg, ac a ddywedodd, Balaam mab Beor a ddywed, a’r gwr a agorwyd ei lygaid a ddywed;
16Dywedodd gwrandawydd geiriau Duw, gwybedydd gwybodaeth y Goruchaf, a gweledydd gweledigaeth yr Hollalluog, yr hwn a syrthiodd, ac yr agorwyd ei lygaid:
17Gwelaf ef, ac nid yr awr hon; edrychaf arno, ond nid o agos: daw Seren o Jacob, a chyfyd teyrn-wïalen o Israel, ac a ddryllia gonglau Moab, ac a ddinystria holl feibion Seth.
18Ac Edom a feddiennir, Seir hefyd a berchennogir gan ei elynion; ac Israel a wna rymmusder.
19Ac arglwyddiaetha un o Jacob, ac a ddinystria y gweddill o’r ddinas.
20A phan edrychodd ar Amalec, efe a gymmerodd ei ddammeg, ac a ddywedodd, Dechreu y cenhedloedd yw Amalec; a’i ddiwedd fydd darfod am dano byth.
21Edrychodd hefyd ar y Ceneaid; ac a gymmerodd ei ddammeg, ac a ddywedodd, Cadarn yw dy annedd; gosod yr wyt dy nyth yn y graig.
22Anrheithir y Ceneaid, hyd oni’th gaethiwo Assur.
23Ac efe a gymmerodd ei ddammeg, ac a ddywedodd, Och! pwy fydd byw pan wnelo Duw hyn!
24Llongau hefyd o derfynau Cittim a orthrymmant Assur, ac a orthrymmant Eber; ac yntau a dderfydd am dano byth.
25A chododd Balaam ac a aeth, ac a ddychwelodd adref: a Balac a aeth hefyd i’w ffordd yntau.