Llyfr Numeri 25:4
A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, Cymmer holl bennaethiaid y bobl, a chrog hwynt i’r Arglwydd ar gyfer yr haul; fel y dychwelo llid digofaint yr Arglwydd oddi wrth Israel.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
3Ac ymgyfeillodd Israel â Baal-Peor; ac ennynodd digofaint yr Arglwydd yn erbyn Israel.
Cross References
Exodus 18:25A Moses a ddewisodd wŷr grymmus allan o holl Israel, ac a’u rhoddodd hwynt yn bennaethiaid ar y bobl; yn dywysogion ar filoedd, yn dywysogion ar gannoedd, yn dywysogion ar ddegau a deugain, ac yn dywysogion ar ddegau.
Numbers 25:14Ac enw y gwr o Israel, yr hwn a laddwyd, sef yr hwn a laddwyd gyd â’r Midianëes, oedd Zimri, mab Salu, pennaeth tŷ ei dad, o lwyth Simeon.
Deuteronomy 4:3Eich llygaid chwi oedd yn gweled yr hyn a wnaeth yr Arglwydd am Baal-peor; oblegid pob gwr a’r a aeth ar ol Baal-peor, yr Arglwydd dy Dduw a’i difethodd ef o’th blith di.
Deuteronomy 13:7Sef rhai o dduwiau y bobl sydd o’ch amgylch chwi, yn agos attat, neu ym mhell oddi wrthyt, o un cwrr i’r tir hyd gwrr arall y tir:
Deuteronomy 13:13Aeth dynion, meibion y fall, allan o’th blith, a gyrrasant drigolion eu dinas, gan ddywedyd, Awn, gwasanaethwn dduwiau dïeithr, y rhai nid adnabuoch;
Deuteronomy 13:17Ac na lyned wrth dy law di ddim o’r dïofryd-beth: fel y dychwelo yr Arglwydd oddi wrth angerdd ei ddig, ac y rhoddo i ti drugaredd, ac y tosturio wrthyt, ac y’th amlhao, megis y tyngodd wrth dy dadau: