The Bible Software
Llyfr Numeri · Beibl (1620)

Llyfr Numeri 25

1Rhaid yw blino y Midianiaid. A thrigodd Israel yn Sittim; a dechreuodd y bobl odinebu gyd â merched Moab.

2A galwasant y bobl i aberthau eu duwiau hwynt; a bwytaodd y bobl, ac addolasant eu duwiau hwynt.

3Ac ymgyfeillodd Israel â Baal-Peor; ac ennynodd digofaint yr Arglwydd yn erbyn Israel.

4A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, Cymmer holl bennaethiaid y bobl, a chrog hwynt i’r Arglwydd ar gyfer yr haul; fel y dychwelo llid digofaint yr Arglwydd oddi wrth Israel.

5A dywedodd Moses wrth farnwyr Israel, Lleddwch bob un ei ddynion, y rhai a ymgyfeillasant â Baal-Peor.

6¶ Ac wele, gwr o feibion Israel a ddaeth, ac a ddygodd Midianëes at ei frodyr, y’ngolwg Moses, ac y’ngolwg holl gynnulleidfa meibion Israel, a hwynt yn wylo wrth ddrws pabell y cyfarfod.

7A gwelodd Phinees mab Eleazar, mab Aaron yr offeiriad; ac a gododd o ganol y gynnulleidfa, ac a gymmerodd waywffon yn ei law;

8Ac a aeth ar ol y gwr o Israel i’r babell; ac a’u gwanodd hwynt ill dau, sef y gwr o Israel, a’r wraig trwy ei cheudod. Ac attaliwyd y pla oddi wrth feibion Israel.

9A bu feirw o’r pla bedair mil ar hugain.

10¶ A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd,

11Phinees nab Eleazar, mab Aaron yr offeiriad, a drodd fy nigter oddi wrth feibion Israel, (pan eiddigeddodd efe drosof fi yn eu mysg,) fel na ddifethais feibion Israel yn fy eiddigedd.

12Am hynny dywed, Wele fi yn rhoddi iddo fy nghyfammod o heddwch.

13A bydd iddo ef, ac i’w had ar ei ol ef, ammod o offeiriadaeth dragywyddol; am iddo eiddigeddu dros ei Dduw, a gwneuthur cymmod dros feibion Israel.

14Ac enw y gwr o Israel, yr hwn a laddwyd, sef yr hwn a laddwyd gyd â’r Midianëes, oedd Zimri, mab Salu, pennaeth tŷ ei dad, o lwyth Simeon.

15Ac enw y wraig o Midian a laddwyd, oedd Cozbi, merch Sur: pen-cenedl o dŷ mawr ym Midian oedd hwn.

16¶ A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd,

17Blina y Midianiaid, a lleddwch hwynt:

18Canys blin ydynt arnoch trwy eu dichellion a ddychymmygasant i’ch erbyn, yn achos Peor, ac yn achos Cozbi, merch tywysog Midian, eu chwaer hwynt, yr hon a laddwyd yn nydd y pla, o achos Peor.

← Llyfr Numeri 24Read In The App, Free →Llyfr Numeri 26 →

Study Llyfr Numeri 25

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

123456789101112131415161718192021222324252627282930313233343536