Llyfr Numeri 3:41
A chymmer y Lefiaid i mi, (myfi yw yr Arglwydd,) yn lle holl gyntaf-anedig meibion Israel, ac anifeiliaid y Lefiaid yn lle pob cyntaf-anedig o anifeiliaid meibion Israel.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
42A Moses a rifodd, megis y gorchymynodd yr Arglwydd iddo, bob cyntaf-anedig o feibion Israel.
Cross References
Exodus 24:5Ac efe a anfonodd langciau meibion Israel; a hwy a offrymmasant boeth-offrymmau, ac a aberthasant fustych yn ebyrth hedd i’r Arglwydd.
Numbers 3:12Ac wele, mi a gymmerais y Lefiaid o blith meibion Israel, yn lle pob cyntaf-anedig, sef pob cyntaf a agoro y groth o feibion Israel; am hynny y Lefiaid a fyddant eiddof fi:
Numbers 3:45Cymmer y Lefiaid yn lle pob cyntaf-anedig o feibion Israel, ac anifeiliaid y Lefiaid yn lle eu hanifeiliaid hwynt; a bydded y Lefiaid i mi: myfi yw yr Arglwydd.
Numbers 18:15Pob peth a agoro y groth o bob cnawd yr hwn a offrymmir i’r Arglwydd, o ddyn ac o anifail, fydd eiddot ti: ond gan brynu y pryni bob cyntaf-anedig i ddyn; a phryn y cyntaf-anedig i’r anifail aflan.
1 Timothy 2:6Yr hwn a'i rhoddes ei hunan yn bridwerth dros bawb, i'w dystiolaethu yn yr amseroedd priod.