The Bible Software
Llyfr Numeri · Beibl (1620)

Llyfr Numeri 3

1Prynu y rhai oedd dros ben. A dyma genhedlaethau Aaron a Moses, ar y dydd y llefarodd yr Arglwydd wrth Moses ym mynydd Sinai.

2Dyma enwau meibion Aaron: Nadab y cyntaf-anedig, ac Abihu, Eleazar, ac Ithamar.

3Dyma enwau meibion Aaron, yr offeiriaid eneiniog, y rhai a gyssegrodd efe i offeiriadu.

4A marw a wnaeth Nadab ac Abihu ger bron yr Arglwydd, pan offrymmasant dân dïeithr ger bron yr Arglwydd, yn anialwch Sinai; a meibion nid oedd iddynt: ac offeiriadodd Eleazar ac Ithamar yng ngŵydd Aaron eu tad.

5¶ A’r Arglwydd a lefarodd wrth Moses, gan ddywedyd,

6Nesâ lwyth Lefi, a gwna iddo sefyll ger bron Aaron yr offeiriad, fel y gwasanaethont ef.

7A hwy a gadwant ei gadwraeth ef, a chadwraeth yr holl gynnulleidfa, o flaen pabell y cyfarfod, i wneuthur gwasanaeth y tabernacl.

8A chadwant holl ddodrefn pabell y cyfarfod, a chadwraeth meibion Israel, i wasanaethu gwasanaeth y tabernacl.

9A thi a roddi’r Lefiaid i Aaron, ac i’w feibion: y rhai hyn sydd wedi eu rhoddi yn rhodd iddo ef o feibion Israel.

10Ac urdda di Aaron a’i feibion i gadw eu hoffeiriadaeth: a’r dïeithrddyn a ddelo yn agos, a roddir i farw.

11¶ Llefarodd yr Arglwydd hefyd wrth Moses, gan ddywedyd,

12Ac wele, mi a gymmerais y Lefiaid o blith meibion Israel, yn lle pob cyntaf-anedig, sef pob cyntaf a agoro y groth o feibion Israel; am hynny y Lefiaid a fyddant eiddof fi:

13Canys eiddof fi yw pob cyntaf-anedig. Ar y dydd y trewais y cyntaf-anedig yn nhir yr Aipht, cyssegrais i mi fy hun bob cyntaf-anedig yn Israel o ddyn ac anifail: eiddof fi ydynt: myfi yw yr Arglwydd.

14¶ Yr Arglwydd hefyd a lefarodd wrth Moses yn anialwch Sinai, gan ddywedyd.

15Cyfrif feibion Lefi yn ol tŷ eu tadau, trwy eu teuluoedd: cyfrif hwynt, bob gwrryw, o fab misyriad ac uchod.

16A Moses a’u cyfrifodd hwynt wrth air yr Arglwydd, fel y gorchymynasid iddo.

17A’r rhai hyn oedd feibion Lefi wrth eu henwau; Gerson, a Cohath, a Merari.

18A dyma enwau meibion Gerson, yn ol eu teuluoedd; Libni a Simei.

19A meibion Cohath, yn ol eu teuluoedd; Amram, Ishar, Hebron, ac Uzziel.

20A meibion Merari, yn ol eu teuluoedd; Mahli a Musi. Dyma deuluoedd Lefi, wrth dŷ eu tadau.

21O Gerson y daeth tylwyth y Libniaid, a thylwyth y Simiaid: dyma deuluoedd y Gersoniaid.

22Eu rhifedigion hwynt, dan rif pob gwrryw o fab misyriad ac uchod, eu rhifedigion, meddaf, oedd saith mil a phùm cant.

23Teuluoedd y Gersoniaid a wersyllant ar y tu ol i’r tabernacl tu a’r gorllewin.

24A phennaeth tŷ tad y Gersoniaid fydd Elïasaph mab Lael.

25A chadwraeth meibion Gerson, ym mhabell y cyfarfod, fydd y tabernacl, a’r babell, ei thô hefyd, a chaeadlen drws pabell y cyfarfod,

26A llenni y cynteddfa, a chaeadlen drws y cynteddfa, yr hwn sydd ynghylch y tabernacl, a’r allor o amgylch, a’i rhaffau i’w holl wasanaeth.

27¶ Ac o Cohath y daeth tylwyth yr Amramiaid, a thylwyth yr Ishariaid, a thylwyth yr Hebroniaid, a thylwyth yr Uzzieliaid: dyma dylwyth y Cohathiaid.

28Rhifedi yr holl wrrywiaid, o fab misyriad ac uchod, oedd wyth mil a chwe chant, yn cadw cadwraeth y cyssegr.

29Teuluoedd meibion Cohath a wersyllant ar ystlys y tabernacl tu a’r dehau.

30A phennaeth tŷ tad tylwyth y Cohathiaid fydd Elisaphan mab Uzziel.

31A’u cadwraeth hwynt fydd yr arch, a’r bwrdd, a’r canhwyllbren, a’r allorau, a llestri y cyssegr, y rhai y gwasanaethant â hwynt, a’r gaeadlen, a’i holl wasanaeth.

32A phennaf ar bennaethiaid y Lefiaid fydd Eleazar mab Aaron yr offeiriad; a llywodraeth ar geidwaid cadwraeth y cyssegr fydd iddo ef.

33¶ O Merari y daeth tylwyth y Mahliaid, a thylwyth y Musiaid: dyma dylwyth Merari.

34A’u rhifedigion hwynt, wrth gyfrif pob gwrryw, o fab misyriad ac uchod, oedd chwe mil a deucant.

35A phennaeth tŷ tad tylwyth Merari fydd Suriel mab Abihael. Ar ystlys y tabernacl y gwersyllant tu a’r gogledd.

36Ac y’nghadwraeth meibion Merari, y bydd ystyllod y tabernacl, a’i drosolion, a’i golofnau, a’i forteisiau, a’i holl offer, a’i holl wasanaeth,

37A cholofnau y cynteddfa o amgylch, a’u morteisiau, a’u hoelion, a’u rhaffau.

38¶ A’r rhai a wersyllant o flaen y tabernacl tu a’r dwyrain, o flaen pabell y cyfarfod tu a chodiad haul, fydd Moses, ac Aaron a’i feibion, y rhai a gadwant gadwraeth y cyssegr, a chadwraeth meibion Israel: a’r dïeithr a ddelo yn agos, a roddir i farwolaeth.

39Holl rifedigion y Lefiaid, y rhai a rifodd Moses ac Aaron, yn ol gair yr Arglwydd, trwy eu teuluoedd, sef pob gwrryw o fab misyriad ac uchod, oedd ddwy fil ar hugain.

40¶ A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, Cyfrif bob cyntaf-anedig gwrryw o feibion Israel, o fab misyriad ac uchod, a chymmer rifedi eu henwau hwynt.

41A chymmer y Lefiaid i mi, (myfi yw yr Arglwydd,) yn lle holl gyntaf-anedig meibion Israel, ac anifeiliaid y Lefiaid yn lle pob cyntaf-anedig o anifeiliaid meibion Israel.

42A Moses a rifodd, megis y gorchymynodd yr Arglwydd iddo, bob cyntaf-anedig o feibion Israel.

43A’r rhai cyntaf-anedig oll, o rai gwrryw, dan rif eu henwau, o fab misyriad ac uchod, o’u rhifedigion hwynt, oedd ddwy fil ar hugain a dau cant a thri ar ddeg a thri ugain.

44¶ A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses gan ddywedyd,

45Cymmer y Lefiaid yn lle pob cyntaf-anedig o feibion Israel, ac anifeiliaid y Lefiaid yn lle eu hanifeiliaid hwynt; a bydded y Lefiaid i mi: myfi yw yr Arglwydd.

46Ac am y rhai sydd i’w prynu o’r tri ar ddeg a thri ugain a deucant, o gyntaf-anedig meibion Israel, y rhai sydd dros ben y Lefiaid;

47Cymmer bùm sicl am bob pen; yn ol sicl y cyssegr y cymmeri. Ugain gerah fydd y sicl.

48A dod yr arian, gwerth y rhai sydd yn ychwaneg o honynt, i Aaron ac i’w feibion.

49A chymmerodd Moses arian y prynedigaeth, y rhai oedd dros ben y rhai a brynwyd am y Lefiaid:

50Gan gyntaf-anedig meibion Israel y cymmerodd efe yr arian; pump a thri ugain a thri chant a mil, o siclau y cyssegr.

51A Moses a roddodd arian y prynedigion i Aaron ac i’w feibion, yn ol gair yr Arglwydd, megis y gorchymynasai yr Arglwydd i Moses.

← Llyfr Numeri 2Read In The App, Free →Llyfr Numeri 4 →

Study Llyfr Numeri 3

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

123456789101112131415161718192021222324252627282930313233343536