Llyfr Numeri 3:7
A hwy a gadwant ei gadwraeth ef, a chadwraeth yr holl gynnulleidfa, o flaen pabell y cyfarfod, i wneuthur gwasanaeth y tabernacl.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
6Nesâ lwyth Lefi, a gwna iddo sefyll ger bron Aaron yr offeiriad, fel y gwasanaethont ef.
Cross References
Numbers 1:50Ond dod i’r Lefiaid awdurdod ar babell y dystiolaeth, ac ar ei holl ddodrefn, ac ar yr hyn oll a berthyn iddi: hwynt-hwy a ddygant y babell, a’i holl ddodrefn, ac a’i gwasanaethant, ac a wersyllant o amgylch i’r babell.
Numbers 3:32A phennaf ar bennaethiaid y Lefiaid fydd Eleazar mab Aaron yr offeiriad; a llywodraeth ar geidwaid cadwraeth y cyssegr fydd iddo ef.
Numbers 8:15Wedi hynny aed y Lefiaid i mewn i wasanaethu pabell y cyfarfod; a glanhâ di hwynt, ac offrymma hwynt yn offrwm.
Numbers 31:30Ac o hanner meibion Israel y cymmeri un rhan o bob deg a deugain, o’r dynion, o’r eidionau, o’r asynod, ac o’r defaid, ac o bob anifail, a dod hwynt i’r Lefiaid, y rhai ydynt yn cadw cadwraeth tabernacl yr Arglwydd.
1 Chronicles 26:20Ac o’r Lefiaid, Ahia oedd ar drysorau tŷ DDUW, ac ar drysorau y pethau cysegredig., º
1 Chronicles 26:26Y Selomith hwnnw a’i frodyr oedd ar holl drysorau y pethau cysegredig a gysegrasai Dafydd frenin, a’r tadau pennaf, a thywysogion y miloedd a’r cannoedd, a thywysogion y llu. º