Llyfr Numeri 32:29
A dywedodd Moses wrthynt, Os meibion Gad a meibion Reuben a ânt dros yr Iorddonen gyd â chwi, pob un yn arfog i’r rhyfel o flaen yr Arglwydd, a darostwng y wlad o’ch blaen; yna rhoddwch iddynt wlad Gilead yn berchennogaeth:
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Numbers 32:17A ni a ymarfogwn yn fuan o flaen meibion Israel, hyd oni ddygom hwynt i’w lle eu hun; a’n plant a arhosant yn y dinasoedd caerog, rhag trigolion y tir.
Joshua 14:3Canys Moses a roddasai etifeddiaeth i ddau lwyth, ac i hanner llwyth, o’r tu hwnt i’r Iorddonen; ond i’r Lefiaid ni roddasai efe etifeddiaeth yn eu mysg hwynt;
Joshua 22:9¶ A meibion Reuben, a meibion Gad, a hanner llwyth Manasseh, a ddychwelasant, ac a aethant ymaith oddi wrth feibion Israel, o Siloh, yr hon sydd y’ngwlad Canaan, i fyned i wlad Gilead, i wlad eu meddiant hwy, yr hon a feddiannasant, wrth orchymyn yr Arglwydd trwy law Moses.
1 Samuel 18:17A dywedodd Saul with Dafydd, Wele Merab fy merch hynaf, hi a roddaf fi i ti yn wraig: yn unig bydd i mi yn fab nerthol, ac ymladd ryfeloedd yr AR¬GLWYDD. (Canys dywedasai Saul, Ni bydd fy llaw i arno ef, ond llaw y Philistiaid fydd arno ef.) º