The Bible Software
Llyfr Numeri · Beibl (1620)

Llyfr Numeri 32

1Hwythau yn ei goresgyn hi. Ac yr ydoedd anifeiliaid lawer i feibion Reuben, a llawer iawn i feibion Gad: a gwelsant dir Jazer, a thir Gilead; ac wele y lle yn lle da i anifeiliaid.

2A meibion Gad a meibion Reuben a ddaethant, ac a ddywedasant wrth Moses, ac wrth Eleazar yr offeiriad, ac wrth bennaduriaid y gynnulleidfa, gan ddywedyd,

3Atoroth, a Dibon, a Jazer, a Nimrah, a Hesbon, ac Elealeh, a Sebam, a Nebo, a Beon,

4Sef y tir a darawodd yr Arglwydd o flaen cynnulleidfa Israel, tir i anifeiliaid yw efe; ac y mae i’th weision anifeiliaid.

5A dywedasant, Os cawsom ffafr yn dy olwg, rhodder y tir hwn i’th weision yn feddiant: na phâr i ni fyned dros yr Iorddonen.

6¶ A dywedodd Moses wrth feibion Gad, ac wrth feibion Reuben, A â eich brodyr i’r rhyfel, ac a eisteddwch chwithau yma?

7A phaham y digalonnwch feibion Israel rhag myned trosodd i’r tir a roddodd yr Arglwydd iddynt?

8Felly y gwnaeth eich tadau, pan anfonais hwynt o Cades-Barnea i edrych y tir.

9Canys aethant i fynu hyd ddyffryn Escol, a gwelsant y tir; a digalonnasant feibion Israel rhag myned i’r tir a roddasai yr Arglwydd iddynt.

10Ac ennynodd digllonedd yr Arglwydd y dydd hwnnw; ac efe a dyngodd, gan ddywedyd,

11Dïau na chaiff yr un o’r dynion a ddaethant i fynu o’r Aipht, o fab ugain mlwydd ac uchod, weled y tir a addewais trwy lw i Abraham, i Isaac, ac i Jacob: am na chyflawnasant wneuthur ar fy ol i:

12Ond Caleb mab Jephunneh y Ceneziad, a Josua mab Nun; canys cyflawnasant wneuthur ar ol yr Arglwydd.

13Ac ennynodd digllonedd yr Arglwydd yn erbyn Israel; a gwnaeth iddynt grwydro yn yr anialwch ddeugain mlynedd, nes darfod yr holl oes a wnaethai ddrygioni y’ngolwg yr Arglwydd.

14Ac wele, chwi a godasoch yn lle eich tadau, yn gynnyrch dynion pechadurus, i chwanegu ar angerdd llid yr Arglwydd wrth Israel.

15Os dychwelwch oddi ar ei ol ef; yna efe a âd y bobl etto yn yr anialwch, a chwi a ddinystriwch yr holl bobl hyn.

16¶ A hwy a ddaethant atto ef, ac a ddywedasant, Corlannau defaid a adeiladwn ni yma i’n hanifeiliaid, a dinasoedd i’n plant.

17A ni a ymarfogwn yn fuan o flaen meibion Israel, hyd oni ddygom hwynt i’w lle eu hun; a’n plant a arhosant yn y dinasoedd caerog, rhag trigolion y tir.

18Ni ddychwelwn ni i’n tai, nes i feibion Israel berchennogi bob un ei etifeddiaeth.

19Hefyd nid etifeddwn ni gyd â hwynt o’r tu hwnt i’r Iorddonen, ac oddi yno allan; am ddyfod ein hetifeddiaeth i ni o’r tu yma i’r Iorddonen, tu a’r dwyrain.

20¶ A dywedodd Moses wrthynt, Os gwnewch y peth hyn, os ymarfogwch i’r rhyfel o flaen yr Arglwydd,

21Os â pob un o honoch dros yr Iorddonen yn arfog o flaen yr Arglwydd, nes iddo yrru ymaith ei elynion o’i flaen,

22A darostwng y wlad o flaen yr Arglwydd; yna wedi hynny y cewch ddychwelyd, ac y byddwch dïeuog ger bron yr Arglwydd, a cher bron Israel; a bydd y tir hwn yn etifeddiaeth i chwi o flaen yr Arglwydd.

23Ond os chwi ni wna fel hyn; wele, pechu yr ydych yn erbyn yr Arglwydd: a gwybyddwch y goddiwedda eich pechod chwi.

24Adeiledwch i chwi ddinasoedd i’ch plant, a chorlannau i’ch defaid; a gwnewch yr hyn a ddaeth allan o’ch genau.

25A llefarodd meibion Gad a meibion Reuben wrth Moses, gan ddywedyd, Dy weision a wnant megis y mae fy arglwydd yn gorchymyn.

26Ein plant, ein gwragedd, ein hanifeiliaid, a’n holl ysgrubliaid, fyddant yma yn ninasoedd Gilead.

27A’th weision a ânt drosodd o flaen yr Arglwydd i’r rhyfel, pob un yn arfog i’r filwriaeth, megis y mae fy arglwydd yn llefaru.

28A gorchymynodd Moses i Eleazar yr offeiriad, ac i Josua mab Nun, ac i bennau-cenedl llwythau meibion Israel, o’u plegid hwynt:

29A dywedodd Moses wrthynt, Os meibion Gad a meibion Reuben a ânt dros yr Iorddonen gyd â chwi, pob un yn arfog i’r rhyfel o flaen yr Arglwydd, a darostwng y wlad o’ch blaen; yna rhoddwch iddynt wlad Gilead yn berchennogaeth:

30Ac onid ânt drosodd gyd â chwi yn arfogion, cymmerant eu hetifeddiaeth yn eich mysg chwi y’ngwlad Canaan.

31A meibion Gad a meibion Reuben a attebasant, gan ddywedyd, Fel y llefarodd yr Arglwydd wrth dy weision, felly y gwnawn ni.

32Nyni a awn drosodd i dir Canaan yn arfogion o flaen yr Arglwydd, fel y byddo meddiant ein hetifeddiaeth o’r tu yma i’r Iorddonen gennym ni.

33A rhoddodd Moses iddynt, sef i feibion Gad, ac i feibion Reuben, ac i hanner llwyth Manasseh mab Joseph, frenhiniaeth Sehon brenhin yr Amoriaid, a brenhiniaeth Og brenhin Basan, y wlad a’i dinasoedd ar hyd y terfynau, sef dinasoedd y wlad oddi amgylch.

34¶ A meibion Gad a adeiladasant Dibon, ac Ataroth, ac Aroer,

35Ac Atroth, Sophan, a Jaazer, a Jogbeah,

36A Beth-nimrah, a Beth-haran, dinasoedd caerog; a chorlannau defaid.

37A meibion Reuben a adeiladasant Hesbon, Elealeh, a Chiriathaim;

38Nebo hefyd, a Baal-meon (wedi troi eu henwau,) a Sibmah: ac a enwasant enwau ar y dinasoedd a adeiladasant.

39A meibion Machir mab Manasseh a aethant i Gilead, ac a’i hennillasant hi, ac a yrrasant ymaith yr Amoriaid oedd ynddi.

40A rhoddodd Moses Gilead i Machir mab Manasseh; ac efe a drigodd ynddi.

41Ac aeth Jair mab Manasseh, ac a ennillodd eu pentrefydd hwynt, ac a’u galwodd hwynt Hafoth-Jair.

42Ac aeth Nobah, ac a ennillodd Cenath a’i phentrefydd, ac a’i galwodd ar ei enw ei hun, Nobah.

← Llyfr Numeri 31Read In The App, Free →Llyfr Numeri 33 →

Study Llyfr Numeri 32

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

123456789101112131415161718192021222324252627282930313233343536