Llyfr Numeri 4:15
Pan ddarffo i Aaron ac i’w feibion orchuddio’r cyssegr, a holl ddodrefn y cyssegr, pan gychwyno y gwersyll; wedi hynny deued meibion Cohath i’w dwyn hwynt: ond na chyffyrddant â’r hyn a fyddo cyssegredig, rhag iddynt farw. Dyma faich meibion Cohath ym mhabell y cyfarfod.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Exodus 19:12A gosod derfyn i’r bobl o amgylch, gan ddywedyd, Gwyliwch arnoch, rhag myned i fynu i’r mynydd, neu gyffwrdd â’i gwrr ef: pwy bynnag a gyffyrddo â’r mynydd a leddir yn farw.
Numbers 1:51A phan symmudo’r babell, y Lefiaid a’i tyn hi i lawr; a phan arhoso y babell, y Lefiaid a’i gesyd hi i fynu: lladder y dïeithr a ddelo yn agos.
Numbers 3:31A’u cadwraeth hwynt fydd yr arch, a’r bwrdd, a’r canhwyllbren, a’r allorau, a llestri y cyssegr, y rhai y gwasanaethant â hwynt, a’r gaeadlen, a’i holl wasanaeth.
Numbers 7:9Ond i feibion Cohath ni roddodd efe ddim, am fod gwasanaeth y cyssegr arnynt: ar eu hysgwyddau y dygent hwnnw.
Numbers 18:3A hwy a gadwant dy gadwraeth di, a chadwraeth yr holl babell: ond na ddeuant yn agos at ddodrefn y cyssegr, nac at yr allor, rhag eu marw hwynt, a chwithau hefyd.
Joshua 4:10¶ A’r offeiriaid, y rhai oedd yn dwyn yr arch, a safasant y’nghanol yr Iorddonen, nes gorphen pob peth a orchymynasai yr Arglwydd i Josua ei lefaru wrth y bobl, yn ol yr hyn oll a orchymynasai Moses wrth Josua: a’r bobl a frysiasant, ac a aethant drosodd.