The Bible Software
Llyfr Numeri · Beibl (1620)

Llyfr Numeri 4

1a’r Merariaid. A’r Arglwydd a lefarodd wrth Moses, ac wrth Aaron, gan ddywedyd,

2Cymmer nifer meibion Cohath o blith meibion Lefi, wrth eu teuluoedd, yn ol tŷ eu tadau;

3O fab deng mlwydd ar hugain ac uchod, hyd fab deng mlwydd a deugain, pob un a elo i’r llu, i wneuthur gwasanaeth ym mhabell y cyfarfod.

4Dyma weinidogaeth meibion Cohath, ym mhabell y cyfarfod, ynghylch y pethau sancteiddiolaf.

5¶ A deued Aaron a’i feibion, pan gychwyno y gwersyll, a thynnant i lawr y wahanlen orchudd, a gorchuddiant â hi arch y dystiolaeth;

6A gosodant ar hynny dô o grwyn daearfoch, a thaenant arni wisg o sidan glas i gyd, a gosodant ei throsolion wrthi.

7Ac ar fwrdd y bara dangos y taenant frethyn glas, a gosodant ar hynny y dysglau, a’r cwppanau, a’r phïolau, a’r caeadau i gau: a bydded y bara bob amser arno.

8A thaenant arnynt wisg o ysgarlad, a gorchuddiant hwnnw â gorchudd o groen daearfoch, a gosodant ei drosolion wrtho.

9Cymmerant hefyd wisg o sidan glas, a gorchuddiant ganhwyllbren y goleuni, a’i lampau, a’i efeiliau, a’i gafnau, a holl lestri yr olew, y rhai y gwasanaethant ef â hwynt.

10A gosodant ef a’i holl ddodrefn mewn gorchudd o groen daearfoch, a gosodant ef ar drosol.

11A thaenant frethyn glas ar yr allor aur, a gorchuddiant hi â gorchudd o groen daearfoch, a gosodant ei throsolion wrthi.

12Cymmerant hefyd holl ddodrefn y gwasanaeth, y rhai y gwasanaethant â hwynt yn y cyssegr, a rhoddant mewn brethyn glas, a gorchuddiant hwynt mewn gor chudd o groen daearfoch, a gosodant ar drosol.

13A thynnant allan ludw yr allor, a thaenant arni wisg borffor.

14A rhoddant arni ei holl lestri, â’r rhai y gwasanaethant hi, sef y pedyll tân, y cigweiniau, a’r rhawiau, a’r cawgiau, ïe, holl lestri yr allor; a thaenant arni orchudd o groen daearfoch, a gosodant ei throsolion wrthi.

15Pan ddarffo i Aaron ac i’w feibion orchuddio’r cyssegr, a holl ddodrefn y cyssegr, pan gychwyno y gwersyll; wedi hynny deued meibion Cohath i’w dwyn hwynt: ond na chyffyrddant â’r hyn a fyddo cyssegredig, rhag iddynt farw. Dyma faich meibion Cohath ym mhabell y cyfarfod.

16¶ Ac i swydd Eleasar mab Aaron yr offeiriad y perthyn olew y goleuni, a’r arogl-darth peraidd, a’r bwyd-offrwrn gwastadol, ac olew yr eneiniad, a goruchwyliaeth yr holl dabernacl, a’r hyn oll fydd ynddo, yn y cyssegr, ac yn ei ddodrefn.

17¶ A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses ac Aaron, gan ddywedyd,

18Na thorrwch ymaith lwyth tylwyth y Cohathiaid o blith y Lefiaid:

19Ond hyn a wnewch iddynt, fel y byddont fyw, ac na fyddont feirw, pan nesânt at y pethau sancteiddiolaf: Aaron a’i feibion a ânt i mewn, ac a’u gosodant hwy bob un ar ei wasanaeth ac ar ei glud.

20Ond nac ânt i edrych pan fydder yn gorchuddio yr hyn sydd gyssegredig, rhag marw o honynt.

21¶ A’r Arglwydd a lefarodd wrth Moses, gan ddywedyd,

22Cymmer nifer meibion Gerson hefyd, trwy dŷ eu tadau, wrth eu teuluoedd;

23O fab dengmlwydd ar hugain ac uchod, hyd fab dengmlwydd a deugain, y rhifi hwynt; pob un a ddêl i ddwyn swydd, i wasanaethu gwasanaeth ym mhabell y cyfarfod.

24Dyma weinidogaeth tylwyth y Gersoniaid, o wasanaeth ac o glud.

25Sef dwyn o honynt lenni’r tabernacl, a phabell y cyfarfod, ei lèn dô ef, a’r tô o grwyn daearfoch, yr hwn sydd yn uchaf arno, a chuddlen drws pabell y cyfarfod,

26A llenni y cynteddfa, a chaeadlen drws porth y cynteddfa, yr hwn sydd ynghylch y tabernacl, a’r allor o amgylch, a’i rhaffau, a holl offer eu gwasanaeth hwynt, a’r hyn oll a wnaed iddynt: felly y gwasanaethant hwy.

27Wrth orchymyn Aaron a’i feibion y bydd holl wasanaeth meibion y Gersoniaid, yn eu holl glud, ac yn eu holl wasanaeth: a dodwch attynt eu holl glud i’w cadw.

28Dyma wasanaeth tylwyth meibion Gerson ym mhabell y cyfarfod; ac ar law Ithamar mab Aaron yr offeiriad y bydd eu llywodraethu hwynt.

29¶ A meibion Merari, trwy eu teuluoedd, wrth dŷ eu tadau, y cyfrifi hwynt;

30O fab dengmlwydd ar hugain ac uchod, hyd fab dengmlwydd a deugain, y rhifi hwynt; pob un a ddêl i ddwyn swydd, i wasanaethu gwasanaeth pabell y cyfarfod.

31A dyma oruchwyliaeth eu clud hwynt, yn eu holl wasanaeth ym mhabell y cyfarfod; sef ystyllod y tabernacl, a’i farrau, a’i golofnau, a’i forteisiau,

32A cholofnau y cynteddfa oddi amgylch, a’u morteisiau, a’u hoelion, a’u rhaffau, ynghyd â’u holl offer, ac ynghyd â’u holl wasanaeth: rhifwch hefyd y dodrefn erbyn eu henwau y rhai a gadwant ac a gludant hwy.

33Dyma wasanaeth tylwyth meibion Merari, yn eu holl weinidogaeth ym mhabell y cyfarfod, dan law Ithamar mab Aaron yr offeiriad.

34¶ A rhifodd Moses ac Aaron, a phennaethiaid y gynnulleidfa, feibion Cohath, trwy eu teuluoedd, ac yn ol tŷ eu tadau:

35O fab dengmlwydd ar hugain ac uchod, hyd fab dengmlwydd a deugain, sef pob un a ddelai mewn swydd i wasanaethu ym mhabell y cyfarfod:

36A’u rhifedigion trwy eu teuluoedd, oedd ddwy fil saith gant a deg a deugain.

37Dyma rifedigion tylwyth y Cohathiaid, sef pob gwasanaethydd ym mhabell y cyfarfod; y rhai a rifodd Moses ac Aaron, wrth orchymyn yr Arglwydd trwy law Moses.

38Rhifedigion meibion Gerson hefyd, trwy eu teuluoedd, ac yn ol tŷ eu. tadau;

39O fab dengmlwydd ar hugain ac uchod, hyd fab dengmlwydd a deugain, sef pob un a ddelai mewn swydd i wasanaethu ym mhabell y cyfarfod:

40A’u rhifedigion hwynt trwy eu teuluoedd, yn ol tŷ eu tadau, oeddynt ddwy fil a chwe chant a deg ar hugain.

41Dyma rifedigion tylwyth meibion Gerson, sef pob gwasanaethydd ym mhabell y cyfarfod; y rhai a rifodd Moses ac Aaron, wrth orchymyn yr Arglwydd.

42¶ A rhifedigion tylwyth meibion. Merari, trwy eu teuluoedd, yn ol tŷ eu tadau;

43O fab dengmlwydd ar hugain ac uchod, hyd fab dengmlwydd a deugain, sef pob un a ddelai mewn swydd i wasanaethu ym mhabell y cyfarfod:

44A’u rhifedigion hwynt trwy eu teuluoedd, oeddynt dair mil a dau cant.

45Dyma rifedigion tylwyth meibion Merari, y rhai a rifodd Moses ac Aaron, wrth orchymyn yr Arglwydd trwy law Moses.

46Yr holl rifedigion, y rhai a rifodd Moses ac Aaron, a phennaethiaid Israel, o’r Lefiaid, trwy eu teuluoedd, ac yn ol tŷ eu tadau;

47O fab dengmlwydd ar hugain ac uchod, hyd fab dengmlwydd a deugain, sef pob un a ddelai i wneuthur gwaith gwasanaeth, neu waith clud ym mhabell. y cyfarfod:

48A’u rhifedigion oeddynt wyth mil pùm cant a phedwar ugain.

49Wrth orchymyn yr Arglwydd, trwy law Moses y rhifodd efe hwy, pob un wrth ei wasanaeth, ac wrth ei glud: fel hyn y rhifwyd hwynt, fel y gorchymynasai yr Arglwydd wrth Moses.

← Llyfr Numeri 3Read In The App, Free →Llyfr Numeri 5 →

Study Llyfr Numeri 4

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

123456789101112131415161718192021222324252627282930313233343536