Philemon 1
1Paul, carcharor Crist Iesu, a’r brawd Timotheus, at Philemon ein hanwylyd, a’n cyd-weithiwr, 1:
2Ac at Apffia ein hanwylyd, ac at Archipus ein cyd-filwr, ac at yr eglwys sydd yn dy dŷ di: 1:
3Gras i chwi, a thangnefedd, oddi wrth Dduw ein Tad, a’r Arglwydd Iesu Grist. 1:
4Yr wyf yn diolch i’m Duw, gan wneuthur coffa amdanat yn wastadol yn fy ngweddiau, 1:
5Wrth glywed dy gariad, a’r ffydd sydd gennyt tuag at yr Arglwydd Iesu, a thuag at yr holl saint; 1:
6Fel y gwneler cyfraniad dy ffydd di yn nerthol, trwy adnabod pob peth daionus a’r sydd ynoch chwi yng Nghrist Iesu. 1:
7Canys y mae gennym lawer o lawenydd a diddanwch yn dy gariad di, herwydd bod ymysgaroedd y saint wedi eu llonni trwot ti, frawd. 1:
8Oherwydd paham, er bod gennyf hyfdra lawer yng Nghrist, i orchymyn i ti y peth sydd weddus: 1:
9Eto o ran cariad yr ydwyf yn hytrach yn atolwg, er fy mod yn gyfryw un a Phaul yr hynafgwr, ac yr awron hefyd yn garcharor Iesu Grist. 1:
10Yr ydwyf yn atolwg i ti dros fy mab Onesimus, yr hwn a genhedlais i yn fy rhwymau: 1:
11Yr hwn gynt a fu i ti yn anfuddiol, ond yr awron yn fuddiol i ti ac i minnau hefyd; 1:
12Yr hwn a ddanfonais drachefn: a derbyn dithau ef, yr hwn yw fy ymysgaroedd i: 1:
13Yr hwn yr oeddwn i yn ewyllysio ei ddal gyda mi, fel drosot ti y gwasanaethai efe fi yn rhwymau yr efengyl. 1:
14Eithr heb dy feddwl di nid ewyllysiais wneuthur dim; fel na byddai dy ddaioni di megis o anghenraid, ond o fodd. 1:
15Canys ysgatfydd er mwyn hyn yr ymadawodd dros amser, fel y derbynnit efyn dragywydd; 1:
16Nid fel gwas bellach, eithr uwchlaw gwas, yn frawd annwyl, yn enwedig i mi; eithr pa faint mwy i ti, yn y cnawd ac yn yr Arglwydd hefyd? 1:
17Os wyt ti gan hynny yn fy nghymryd i yn gydymaith, derbyn ef fel myfi. 1:
18Ac os gwnaeth efe ddim cam â thi, neu os yw yn dy ddyled, cyfrif hynny arnaf i; 1:
19Myfi Paul a’i hysgrifennais a’m llaw fy hun, myfi a’i talaf: fel na ddywedwyf wrthyt, dy fod yn fy nyled i ymhellach amdanat dy hun hefyd. 1:
20Ie, frawd, gad i mi dy fwynhau di yn yr Arglwydd: llonna fy ymysgaroedd i yn yr Arglwydd. 1:
21Gan hyderu ar dy ufudd-dod yr ysgrifennais atat, gan wybod y gwnei, ie, fwy nag yr wyf yn ei ddywedyd. 1:
22Heblaw hyn hefyd, paratoa i mi lety: canys yr ydwyf yn gobeithio trwy eich gweddiau chwi y rhoddir fi i chwi. 1:
23Y mae yn dy annerch, Epaffras, fy nghyd-garcharor yng Nghrist Iesu; 1:
24Marc, Aristarchus, Demas, Luc, fy nghyd-weithwyr. 1:
25Gras ein Harglwydd Iesu Grist fyddo gyda’ch ysbryd chwi. Amen. At Philemon yr ysgrifennwyd Rufain, gyda’r gwas Onesimus.