Llyfr y Diarhebion 16:14
Digofaint y brenin sydd megis cennad angau; ond gŵr doeth a’i gostega.
Beibl (1620)
In The King James Version
The wrath of a king is as messengers of death: but a wise man will pacify it.
In Context
13Gwefusau cyfiawn sydd gymeradwy gan frenhinoedd; a’r brenin a gâr a draetho yr uniawn.
15Yn siriol wynepryd y brenin y mae bywyd: a’i ewyllys da ef sydd megis cwmwl glaw diweddar.
Read all of Llyfr y Diarhebion 16
Cross References
Genesis 40:2A Pharaoh a lidiodd wrth ei ddau swyddwr, sef wrth y pen-trulliad, a’r pen-pobydd:
Esther 7:7A’r brenin a gyfododd yn ei ddicllonedd o gyfeddach y gwin, ac a aeth i ardd y palas: a Haman a safodd i ymbil ag Esther y frenhines am ei einioes; canys efe a welodd fod drwg wedi ei baratoi yn ei erbyn ef oddi wrth y brenin.
Proverbs 19:12Llid y brenin sydd megis rhuad llew ieuanc: ond ei ffafr ef sydd megis gwlith ar laswellt
Proverbs 29:26Llawer a ymgeisiant ag wyneb y llywydd: ond oddi wrth yr ARGLWYDD y mae barn pob dyn.
Daniel 2:16Yna Daniel a aeth i mewn, ac ymbiliodd â’r brenin am roddi iddo amser, ac y dangosai efe y dehongliad i’r brenin.
Mark 6:27Ac yn y man y brenin a ddanfonodd ddienyddwr, ac a orchmynnodd ddwyn ei ben ef.