The Bible Software
Llyfr y Diarhebion · Beibl (1620)

Llyfr y Diarhebion 16

1Paratoad y galon mewn dyn, ac ymadrodd y tafod, oddi wrth yr ARGLWYDD y mae.

2Holl ffyrdd dyn ydynt lân yn ei olwg ei hun: ond yr ARGLWYDD a bwysa yr ysbrydion.

3Treigla dy weithredoedd ar yr ARGLWYDD, a’th feddyliau a safant.

4Yr ARGLWYDD a wnaeth bob peth er ei fwyn ei hun: a’r anauwiol hefyd erbyn y dydd drwg.

5Ffiaidd gan yr ARGLWYDD bob dyn uchel galon: er maint fyddo ei gymorth, ni bydd dieuog.

6Trwy drugaredd a gwirionedd y dileir pechod: a thrwy ofn Yr ARGLWYDD y mae ymado oddi wrth ddrwg.

7Pan fyddo ffyrdd gŵrr yn rhyngu bodd i’r ARGLWYDD, efe a bair i’w elynion fod yn heddychol ag ef.

8Gwell yw ychydig trwy gyfiawnder, na chnwd mawr trwy gam.

9Calon dyn a ddychymyg ei ffordd: ond yr ARGLWYDD a gyfarwydda ei gerddediad ef.

10Ymadrodd Duw sydd yng ngwefusau y brenin: ni ŵyra ei enau ef mewn barn.

11Pwys a chloriannau cywir, yr ARGLWYDD a’u piau: ei waith ef yw holl gerrig y god.

12Ffiaidd yw i frehinoedd wneuthur annuwioldeb: canys trwy gyfiawnder y cadarnheir yr orsedd.

13Gwefusau cyfiawn sydd gymeradwy gan frenhinoedd; a’r brenin a gâr a draetho yr uniawn.

14Digofaint y brenin sydd megis cennad angau; ond gŵr doeth a’i gostega.

15Yn siriol wynepryd y brenin y mae bywyd: a’i ewyllys da ef sydd megis cwmwl glaw diweddar.

16Cael doethineb, O mor well yw nag aur coeth! a chael deall, mwy dymunolt a yw nag arian.

17Sarn y cyfiawn yw dychwelyd oddi wrth ddrwg: y neb a gadwo ei ffordd, a geidw ei enaid.

18Balchder sydd yn myned o flaen dinistr: ac uchder ysbryd o flaen cwymp.

19Gwell yw bod yn ostyngedig gyda’r gostyngedig, na rhannu yr ysbail gyda’r beilchion.

20A drino fater yn ddoeth, a gaiff ddaioni: a’r neb a ymddiriedo yn yr ARGLWYDD, O gwyn ei fyd hwnnw!

21Y doeth ei galon a elwir yn ddeallus; a melyster y gwefusau a chwanega ddysgeidiaeth.

22Ffynnon y bywyd yw deall i’w pherchennog: ond addysg ffyliaid yw ffolineb.

23Calon y doeth a reola ei enau ef yn synhwyrol, ac a chwanega addysg i’w wefusau.

24Geiriau teg ydynt megis dil mêl, yn felys i’r enaid, ac yn iachus i’r esgyrn.

25Mae ffordd a dybir ei bod yn uniawn yng ngolwg dyn: ond ei diwedd yw ffyrdd marwolaeth.

26Y neb a lafurio, a lafuria iddo ei hun: canys ei enau a’i gofyn ganddo.

27Dyn i’r fall sydd yn cloddio drwg: ac ar ei wefusau yr erys fel tân poeth.

28Dyn cyndyn a bair ymryson: a’r hustyngwr a neilltua dywysogion.

29Gŵr traws a huda ei gymydog, ac a’i tywys i’r ffordd nid yw dda.

30Efe a gae ei lygaid i ddychymyg trawsedd; gan symud ei wefusau y dwg efe ddrwg i ben.

31Coron anrhydeddus yw penllwydni, os bydd mewn ffordd cyfiawnder.

32Gwell yw y diog i ddigofaint na’r cadarn; a’r neb a reola ei ysbryd ei hun, na’r hwn a enillo ddinas.

33Y coelbren a fwrir i’r arffed: ond oddi wrth yr ARGLWYDD y mae ei holl lywodraethiad ef.

← Llyfr y Diarhebion 15Read In The App, Free →Llyfr y Diarhebion 17 →

Study Llyfr y Diarhebion 16

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

12345678910111213141516171819202122232425262728293031