Llyfr y Diarhebion 18:23
Y tlawd a ymbil; a’r cyfoethog a etyb yn erwin.
Beibl (1620)
In The King James Version
The poor useth intreaties; but the rich answereth roughly.
In Context
22Y neb sydd yn cael gwraig, sydd yn cael peth daionus, ac yn cael ffafr gan yr ARGLWYDD.
24Y neb y mae iddo gyfeillion, cadwed gariad: ac y mae cyfaill a lŷn wrthyt yn well na brawd.
Read all of Llyfr y Diarhebion 18
Cross References
Genesis 42:7A Joseph a ganfu ei frodyr, ac a’u hadnabu hwynt, ac a ymddïeithrodd iddynt hwy, ac a lefarodd wrthynt yn arw, ac a ddywedodd wrthynt, O ba le y daethoch? Hwythau a attebasant, O wlad Canaan, i brynu lluniaeth.
Exodus 5:2A dywedodd Pharaoh, Pwy yw yr Arglwydd, fel y gwrandâwn i ar ei lais, i ollwng Israel ymaith? Yr Arglwydd nid adwaen, ac Israel ni ollyngaf.
1 Samuel 2:36A bydd i bob un a adewir yn dy dŷ di ddyfod ac ymgrymu iddo ef am ddernyn o arian a thamaid o fara, a dywedyd, Gosod fi yn awr mewn rhyw offeiriadaeth, i gael bwyta tamaid o fara.
1 Samuel 25:17Yn awr gan hynny gwybydd, ac ystyria beth a wnelych: canys paratowyd drwg yn erbyn ein meistr ni, ac yn erbyn ei holl dy ef: canys efe sydd fab i Belial, fel na ellir ymddiddan ag ef. º
Job 41:3A fawr ymbil efe â thi? a ddywed efe wrthyt ti yn deg?
Isaiah 66:2Canys y pethau hyn oll a wnaeth fy llaw, a thrwof fi y mae hyn oll, medd yr ARGLWYDD: ond ar hwn yr edrychaf, sef ar y truan a’r cystuddiedig o ysbryd, ac sydd yn crynu wrth fy ngair. º