The Bible Software
Llyfr y Diarhebion · Beibl (1620)

Llyfr y Diarhebion 18

1Y neilltuol a gais wrth ei ddeisyfiad ei hun, ac a ymyrra â phob peth.

2Y ffôl nid hoff ganddo ddeall; ond bod i’w galon ei datguddio ei hun.

3Wrth ddyfodiad y drygionus y daw diystyrwch, a chyda gogan, gwaradwydd.

4Geiriau yng ngenau gŵr sydd fel dyfroedd dyfnion; a ffynnon doethineb sydd megis afon yn llifo.

5Nid da derbyn wyneb yr annuwiol, i ddymchwelyd y cyfiawn mewn barn.

6Gwefusau y ffôl a ânt i mewn i gynnen, a’i enau a eilw am ddyrnodiau.

7Genau y ffôl yw ei ddinistr, a’i wefusau sydd fagi i’w enaid.

8Geiriau yr hustyngwÿr sÿdd megis archollion, ac a ddisgynnant i gilfachau y bol.

9Y neb a fyddo diog yn ei waith, sydd frawd i’r treulgar.

10Tŵr cadarn yw enw yr AR GLWYDD: ato y rhed y cyfiawn, ac y mae yn ddiogel.

11Cyfoeth y cyfoethog sydd iddo yn ddinas gadarn, ac yn fur uchel, yn ei dyb ei hun.

12Cyn dinistr y balchïa calon gŵr; a chyn anrhydeddy bydd gostyngeiddrwydd.

13Y neb a atebo beth cyn ei glywed, ffolineb a chywilydd fydd iddo.

14Ysbryd gŵr a gynnal ei glefyd ef: ond ysbryd cystuddiedig pwy a’i cyfyd?

15Calon y pwyllog a berchenoga wybodaeth; a chlust y doethion a gais wybodaeth.

16Rhodd dyn a ehanga arno, ac a’i dwg ef gerbron penaethiaid.

17Y cyntaf yn ei hawl a dybir ei fod yn gyfiawn: ond ei gymydog a ddaw ac a’i chwilia ef.

18Y coelbren a wna i gynhennau beidio, ac a athrywyn rhwng cedyrn.

19Anos yw ennill ewyllys da brawd pan ddigier, na dinas gadarn: a’u hymryson sydd megis trosol castell.

20A ffrwyth genau gŵr y diwellir ei fol; ac o ffrwyth y gwefusau y digonir ef.

21Angau a bywyd sydd ym meddiant y tafod: a’r rhai a’i hoffant ef a fwytânt ei ffrwyth ef.

22Y neb sydd yn cael gwraig, sydd yn cael peth daionus, ac yn cael ffafr gan yr ARGLWYDD.

23Y tlawd a ymbil; a’r cyfoethog a etyb yn erwin.

24Y neb y mae iddo gyfeillion, cadwed gariad: ac y mae cyfaill a lŷn wrthyt yn well na brawd.

← Llyfr y Diarhebion 17Read In The App, Free →Llyfr y Diarhebion 19 →

Study Llyfr y Diarhebion 18

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

12345678910111213141516171819202122232425262728293031