Llyfr y Diarhebion 27:10
Nac ymado â’th gydymaith dy hun, a chydymaith dy dad; ac na ddos i dŷ dy frawd yn amser dy orthrymder: canys gwell yw cymydog yn agos na brawd ymhell.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
9Olew ac arogl-darth a lawenycha y galon; felly y gwna mwynder cyfaill trwy gyngor ffyddlon.
11Bydd ddoeth, fy mab, a llawenycha fy nghalon; fel y gallwyf ateb i’r neb a’m gwaradwyddo.
Read all of Llyfr y Diarhebion 27
Cross References
2 Samuel 19:28Canys nid oedd holl dy fy nhad i ond dynion meirw gerbron fy arglwydd y brenin; eto tydi a osodaist dy was ymhiith y rhai oedd yn bwyta ar dy fwrdd dy hun: pa gyfiawnder gan hynny sydd i mi bellach i weiddi mwy ar y brenin? º
1 Kings 12:6A’r brenin Rehoboam a ymgyng-horodd a’r henuriaid a fuasai yn sefyll gerbron Solomon ei dad ef, tra yr ydoedd efe yn fyw, ac a ddywedodd. Pa fodd yr ydych chwi yn cynghori ateb i’r bobl hyn? º
2 Chronicles 10:8Ond efe a wrthododd gyngor yr henuriaid a gyngorasent hwy iddo; ac efe a ymgynghorodd â’r gwŷr ieuainc a gynyddasent gydag ef, a’r rhai oedd yn sefyll ger ei fron ef.
Job 6:21Canys yn awr nid ydych chwi ddim; chwi a welsoch fy nhaflu i lawr, ac a ofnasoch.
Proverbs 18:24Y neb y mae iddo gyfeillion, cadwed gariad: ac y mae cyfaill a lŷn wrthyt yn well na brawd.
Isaiah 41:8Eithr ti, Israel, fy ngwas ydwyt ti, Jacob yr hwn a etholais, had Abraham fy anwylyd. º