The Bible Software
Llyfr y Diarhebion · Beibl (1620)

Llyfr y Diarhebion 27

1Nac ymffrostia o’r dydd yfory: canys ni wyddost beth a ddigwydd mewn diwrnod.

2Canmoled arall dydi, ac nid dy enau dy hun; estron, ac nid dy wefusau dy hunan.

3Trom yw y garreg, a phwysfawr yw y tywod: ond digofaint y ffôl sydd drymach na hwy ill dau.

4Creulon yw llid, fel llifddwfr yw digofaint; a phwy a ddichon sefyll o flaen cenfigen?

5Gwell yw cerydd cyhoedd na chariad cuddiedig.

6Ffyddlon yw archollion y caredig: ond cusanau y digasog ydynt dwyllodrus.

7Y dyn llawn a fathra y dil mêl: ond i’r newynog pob peth chwerw sydd felys.

8Gŵr yn ymdaith o’i le ei hun, sydd debyg i aderyn yn cilio o’i nyth.

9Olew ac arogl-darth a lawenycha y galon; felly y gwna mwynder cyfaill trwy gyngor ffyddlon.

10Nac ymado â’th gydymaith dy hun, a chydymaith dy dad; ac na ddos i dŷ dy frawd yn amser dy orthrymder: canys gwell yw cymydog yn agos na brawd ymhell.

11Bydd ddoeth, fy mab, a llawenycha fy nghalon; fel y gallwyf ateb i’r neb a’m gwaradwyddo.

12Y call a wêl y drwg yn dyfod, ac a ymgûdd: ond yr angall a ânt rhagddynt, ac a gosbir.

13Cymer wisg yr hwn a fachnïo dros y dieithr; a chmner wystl ganddo dros y ddieithr.

14Y neb a fendithio ei gydymaith â llef uchel y bore pan gyfodo, cyfrifir hyn yn felltith iddo.

15Defni parhaus ar ddiwrnod glawog, a gwraig anynad, cyffelyb ydynt.

16Y mae yr hwn a’i cuddio hi, megis yn cuddio y gwynt, ac olew ei ddeheulaw, yr hwn a ymddengys.

17Haearn a hoga haearn: felly gŵr a hoga wyneb ei gyfaill.

18Y neb a gadwo ei ffigysbren, a fwÿtÿ o’i ffrwyth ef: a’r neb a wasanaetho ei feistr, a ddaw i anrhydedd.

19Megis mewn dwfr y mae wyneb yn ateb i wyneb: felly y mae calon dyn i ddyn.

20Ni lenwir uffern na distryw: felly ni lenwir llygaid dyn.

21Fel y tawddlestr i’r arian, a’r ffwrnais i’r aur: felly y mae gŵr i’w glod.

22Er i ti bwyo ffôl mewn morter â phestl ymhlith gwenith, eto nid ymedy ei ffolineb ag ef.

23Edrych yn ddyfal ar dy anifeiliaid, a gofala am dy braidd.

24Canys cyfoeth ni phery byth: ac a bery y goron o genhedlaeth i genhedlaeth?

25Y gwair a flaendardda, a’r glaswellt a ymddengys, a llysiau y mynyddoedd a gesglir.

26Yr ŵyn a’th ddillada, ac o’r geifr y cei werth tir.

27Hefyd ti a gei ddigon o laeth geifr yn fwyd i ti, yn fwyd i’th dylwyth, ac yn gynhaliaeth i’th lancesau.

← Llyfr y Diarhebion 26Read In The App, Free →Llyfr y Diarhebion 28 →

Study Llyfr y Diarhebion 27

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

12345678910111213141516171819202122232425262728293031