Llyfr y Salmau 90:15
Llawenha ni yn ôl y dyddiau: y cystuddiaist ni, a’r blynyddoedd y gwelsom ddrygfyd.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
14Diwalla ni yn fore â’th drugaredd; fel y gorfoleddom ac y llawenychom dros ein holl ddyddiau.
16Gweler dy waith tuag at dy weision, a’th ogoniant tuag at eu plant hwy.
Cross References
Isaiah 12:1YNA y dywedi yn y dydd hwnnw, Molaf di, O ARGLWYDD: er i ti sorri wrthyf, dychwelir dy lid, a thi a’m cysuri. º
Isaiah 61:3I osod i alarwyr, Seion, ac i roddi iddynt ogoniant yn lle lludw, olew llawenydd yn lle galar, gwisg moliant yn lle ysbryd cystuddiedig; fel y gelwid hwynt yn brennau cyfiawnder, yn blanhigyn yr ARGLWYDD, fel y gogonedder ef. º
Jeremiah 31:12Am hynny y deuant, ac y canant yn uchelder Seion; a hwy a redant at ddaioni yr ARGLWYDD, am wenith, ac am win, ac am olew, ac am epil y defaid a’r gwartheg: a’u henaid fydd fel gardd ddyfradwy; ac ni ofidiant mwyach. º
John 16:20Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, Chwi a wylwch ac a alerwch, a’r byd a lawenycha: eithr chwi a fyddwch dristion; ond eich tristwch a droir yn llawenydd.