The Bible Software
Llyfr y Salmau · Beibl (1620)

Llyfr y Salmau 90

1Gweddi Moses gŵr DUW. Ti, ARGLWYDD, fuost yn breswylfa i ni ym mhob cenhedlaeth.

2Cyn gwneuthur y mynyddoedd, a llunio ohonot y ddaear, a’r byd; ti hefyd wyt DDUW, o dragwyddoldeb hyd dragwyddoldeb.

3Troi ddyn i ddinistr; a dywedi, Dychwelwch, feibion dynion.

4Canys mil o flynyddoedd ydynt yn dy olwg di fel doe, wedi yr êl heibio, ac fel gwyliadwriaeth nos.

5Dygi hwynt ymaith megis â llifeiriant; y maent fel hun: y bore y maent fel llysieuyn a newidir.

6Y bore y blodeua, ac y tyf; prynhawn y torrir ef ymaith, ac y gwywa.

7Canys yn dy ddig y difethwyd ni, ac yn dy lidiowgrwydd y’n brawychwyd.

8Gosodaist ein hanwiredd ger dy fron, ein dirgel bechodau yng ngoleuni dy wyneb.

9Canys ein holl ddyddiau ni a ddarfuant gan dy ddigofaint di: treuliasom ein blynyddoedd fel chwedl.

10Yn nyddiau ein blynyddoedd y mae deng mlynedd a thrigain: ac os o gryfder y cyrhaeddir pedwar ugain mlynedd, eto eu nerth sydd boen a blinder; canys ebwydd y derfydd, a ni a ehedwn ymaith.

11Pwy a edwyn nerth dy soriant? canys fel y mae dy ofn, y mae dy ddicter.

12Dysg i ni felly gyfrif ein dyddiau, fel y dygom ein calon i ddoethineb.

13Dychwel, ARGLWYDD, pa hyd? ac edifarha o ran dy weision.

14Diwalla ni yn fore â’th drugaredd; fel y gorfoleddom ac y llawenychom dros ein holl ddyddiau.

15Llawenha ni yn ôl y dyddiau: y cystuddiaist ni, a’r blynyddoedd y gwelsom ddrygfyd.

16Gweler dy waith tuag at dy weision, a’th ogoniant tuag at eu plant hwy.

17A bydded prydferthwch yr ARGLWYDD ein DUW arnom ni: a threfna weithred ein dwylo ynom ni; ie, trefna waith ein dwylo.

← Llyfr y Salmau 89Read In The App, Free →Llyfr y Salmau 91 →

Study Llyfr y Salmau 90

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschCharles SpurgeonScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

123456789101112131415161718192021222324252627282930313233343536373839404142434445464748495051525354555657585960616263646566676869707172737475767778798081828384858687888990919293949596979899100101102103104105106107108109110111112113114115116117118119120121122123124125126127128129130131132133134135136137138139140141142143144145146147148149150