Llythyr Paul at y Rhufeiniaid 1:11
Canys yr wyf yn hiraethu am eich gweled, fel y gallwyf gyfrannu i chwi ryw ddawn ysbrydol, fel y’ch cadarnhaer:
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
10Gan ddeisyf a gawn ryw fodd, ryw amser bellach, rwydd hynt gydag ewyllys Duw i ddyfod atoch chwi.
12A hynny sydd i’m cydymgysuro ynoch chwi, trwy ffydd ein gilydd, yr eiddoch chwi a’r eiddof finnau.
Read all of Llythyr Paul at y Rhufeiniaid 1
Cross References
2 Samuel 13:39Ac enaid Dafydd y brenin a hiraethodd am fyned at Absalom: canys efe a gysurasid am Amnon, gan ei farw efe.
2 Chronicles 20:20A hwy a gyfodasant yn fore, ac a aethant i anialwch Tecoa: ac wrth fyned ohonynt, Jehosaffat a safodd, ac a ddy¬wedodd, Gwrandewch fi, O Jwda, a thrigolion Jerwsalem; Credwch yn yr ARGLWYDD eich Duw, a chwi a sicrheir; coeliwch ei broffwydi ef, a chwi a ffynnwch.
Acts 16:5Ac felly yr eglwysi a gadarnhawyd yn y ffydd, ac a gynyddasant mewn rhifedi beunydd.
Acts 19:21A phan gyflawnwyd y pethau hyn, arfaethodd Paul yn yr ysbryd, gwedi iddo dramwy trwy Facedonia ac Achaia, fyned i Jerwsalem; gan ddywedyd, Gwedi imi fod yno, rhaid imi weled Rhufain hefyd.
Romans 15:29Ac mi a wn, pan ddelwyf atoch, y deuaf â chyflawnder bendith efengyl Crist.
Romans 16:25I’r hwn a ddichon eich cadarnhau yn ôl fy efengyl i, a phregethiad Iesu Grist, (yn ôl datguddiad y dirgelwch, yr hwn ni soniwyd amdano er dechreuad y byd;