Llythyr Paul at y Rhufeiniaid 1:18
Canys digofaint Duw a ddatguddiwyd o’r nef yn erbyn pob annuwioldeb ac anghyfiawnder dynion, y rhai sydd yn atal y gwirionedd mewn anghyfiawnder.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
19Oherwydd yr hyn a ellir ei wybod am Dduw, sydd eglur ynddynt hwy: canys Duw a’i heglurodd iddynt.
Read all of Llythyr Paul at y Rhufeiniaid 1
Cross References
John 3:19A hon yw’r ddamnedigaeth, ddyfod goleuni i’r byd, a charu o ddynion y tywyllwch yn fwy na’r goleuni; canys yr oedd eu gweithredoedd hwy yn ddrwg.
Romans 1:19Oherwydd yr hyn a ellir ei wybod am Dduw, sydd eglur ynddynt hwy: canys Duw a’i heglurodd iddynt.
Romans 1:32Y rhai yn gwybod cyfiawnder Duw, fod y rhai sydd yn gwneuthur y cyfryw bethau yn haeddu marwolaeth, ydynt nid yn unig yn gwneuthur y pethau hyn eithr hefyd yn cydymfodloni â’r rhai sydd yn eu gwneuthur hwynt.
Romans 2:15Y rhai sydd yn dangos gweithred y ddeddf yn ysgrifenedig yn eu calonnau, a’u cydwybod yn cyd-dystiolaethu, a’u meddyliau yn cyhuddo ei gilydd, neu yn esgusodi;)
Romans 5:6Canys Crist, pan oeddem ni eto yn weiniaid, mewn pryd a fu farw dros yr annuwiol.
Romans 6:13Ac na roddwch eich aelodau yn arfau anghyfiawnder i bechod: eithr rhoddwch eich hunain i Dduw, megis rhai o feirw yn fyw; a’ch aelodau yn arfau cyfiawnder i Dduw.