Llythyr Paul at y Rhufeiniaid 13:4
Canys gweinidog Duw ydyw efe i ti er daioni. Eithr os gwnei ddrwg, ofna; canys nid yw efe yn dwyn y cleddyf yn ofer: oblegid gweinidog Duw yw efe, dialydd llid i’r hwn sydd yn gwneuthur drwg.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
5Herwydd paham anghenraid yw ymddarostwng, nid yn unig oherwydd llid, eithr oherwydd cydwybod hefyd.
Read all of Llythyr Paul at y Rhufeiniaid 13
Cross References
Joshua 20:5Ac os dïalydd y gwaed a erlid ar ei ol ef, na roddant y lleiddiad yn ei law ef: canys mewn anwybod y tarawodd efe ei gymmydog, ac nid oedd gas ganddo ef o’r blaen.
1 Kings 10:9Bendigedig fyddo yr ARGLWYDD dy DDUW, yr hwn a’th hoffodd di, i’th roddi ar deyrngadair Israel: oherwydd cariad yr ARGLWYDD tuag at Israel yn dragywydd, y gosododd efe di yn frenin, i wneuthur barn a chyfiawnder. º
Psalms 82:2Cymerwch Salm, a moeswch dympan, y delyn fwyn a’r nabl.
Proverbs 20:2Megis rhuad flew ieuanc yw ofn y brenin: y mae y neb a’i cyffrô ef i ddigofaint yn pechu yn erbyn ei enaid ei hun.
Proverbs 20:26Brenin doeth a wasgar yr annuwiol, ac a dry yr olwyn arnynt.
Proverbs 31:8Agor dy enau dros y mud, yn achos holl blant dinistr.