Llythyr Paul at y Rhufeiniaid 16:18
Canys y rhai sydd gyfryw, nid ydynt yn gwasanaethu ein Harglwydd Iesu Grist, eithr eu bol eu hunain; a thrwy ymadrodd teg a gweniaith, yn twyllo calonnau’r rhai diddrwg.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Read all of Llythyr Paul at y Rhufeiniaid 16
Cross References
1 Samuel 2:29Paham y sethrwch chwi fy aberth a’m bwyd-offrwm, y rhai a orchmynnais yn fy nhrigfa, ac yr anrhydeddi dy feibion yn fwy na myfi, gan eich pesgi eich hunain â’r gorau o holl offrymau fy mhobl Israel?
2 Chronicles 18:12Air gennad a aethai i alw Michea, a lefarodd wrtho ef, gan ddywedyd, Wele eiriau y proffwydi yn unair yn dda i’r brenin: bydded gan hynny, atolwg, dy air dithau fel un o’r rhai hynny, a dywed y gorau.
Proverbs 14:15Yr ehud a goelia bob gair: a’r call a ddeil ar ei gamre.
Isaiah 30:10Y rhai a ddywedant wrth y gweled¬yddion, Na welwch; ac wrth y proffwydi, Na phroffwydwch i ni bethau uniawn, traethwch i ni weniaith, proffwydwch i ni siomedigaeth: º
Jeremiah 8:10Am hynny y rhoddaf eu gwrag edd hwynt i eraill, a’u meysydd i’r rhai a’u meddianno: canys o’r lleiaf hyd y mwyaf, pob un sydd yn ymroi i gybydd-dod; o’r proffwyd hyd at yr offeiriad, pawb sydd yn gwneuthur ffalster.