The Bible Software
Llythyr Paul at y Rhufeiniaid · Beibl (1620)

Llythyr Paul at y Rhufeiniaid 16

1Yr wyf yn gorchymyn i chwi Phebe ein chwaer, yr hon sydd weinidoges i eglwys Cenchrea;

2Dderbyn ohonoch hi yn yr Arglwydd, megis y mae yn addas i saint; a’i chynorthwyo hi ym mha beth bynnag y byddo rhaid iddi wrthych: canys hithau hefyd a fu gymorth i lawer, ac i minnau fy hun hefyd.

3Anerchwch Priscila ac Acwila, fy nghyd-weithwyr yng Nghrist Iesu;

4Y rhai dros fy mywyd i a ddodasant eu gyddfau eu hunain i lawr: i’r rhai nid wyf fi yn unig yn diolch, ond hefyd holl eglwysydd y Cenhedloedd.

5Anerchwch hefyd yr eglwys sydd yn eu tŷ hwy. Anerchwch fy annwyl Epenetus, yr hwn yw blaenffrwyth Achaia yng Nghrist.

6Anerchwch Mair, yr hon a gymerodd lawer o boen erom ni.

7Anerchwch Andronicus a Jwnia, fy ngheraint a’m cyd-garcharorion, y rhai sydd hynod ymhlith yr apostolion, y rhai hefyd oeddynt yng Nghrist o’m blaen i.;

8Anerchwch Amplias, fy anwylyd yn yr Arglwydd.

9Anerchwch Urbanus, ein cydweithiwr yng Nghrist, a Stachys fy anwylyd.

10Anerchwch Apeles, y profedig yng Nghrist. Anerchwch y rhai sydd o dylwyth Aristobulus.

11Anerchwch Herodion, fy nghâr. Anerchwch y rhai sydd o dylwyth Narcisus, y rhai sydd yn yr Arglwydd.

12Anerchwch Tryffena a Thryffosa, y rhai a gymerasant boen yn yr Arglwydd. Anerchwch yr annwyl Persis, yr hon a gymerodd lawer o boen yn yr Arglwydd.

13Anerchwch Rwffus etholedig yn yr Arglwydd, a’i fam ef a minnau.

14Anerchwch Asyncritus, Phlegon, Hennas, Patrobas, Mercurius; a’r brodyr sydd gyda hwynt.

15Anerchwch Philogus, a Jwlia, Nereus a’i chwaer, ac Olympas, a’r holl saint y rhai sydd gyda hwynt.

16Anerchwch y naill y llall â chusan sanctaidd. Y mae eglwysi Crist yn eich annerch.

17Ac yr wyf yn atolwg i chwi, frodyr, graffu ar y rhai sydd yn peri anghydfod a rhwystrau yn erbyn yr athrawiaeth a ddysgasoch chwi; a chiliwch oddi wrthynt.

18Canys y rhai sydd gyfryw, nid ydynt yn gwasanaethu ein Harglwydd Iesu Grist, eithr eu bol eu hunain; a thrwy ymadrodd teg a gweniaith, yn twyllo calonnau’r rhai diddrwg.

19Canys eich ufudd-dod chwi a ddaeth ar led at bawb. Yr wyf fi gan hynny yn llawen o’ch rhan chwi: eithr myfi a ewyllysiwn i chwi fod yn ddoethion tuag at y peth sydd dda, ac yn wirion tuag at y peth sydd ddrwg.

20A Duw’r tangnefedd a sathr Satan dan eich traed chwi ar frys. Gras ein Harglwydd Iesu Grist fyddo gyda chwi. Amen.

21Y mae Timotheus fy nghydweithiwr, a Lucius, a Jason, a Sosipater, fy ngfaeraint, yn eich annerch.

22Yr wyf fi Tertius, yr hwn a ysgrifennais yr epistol hwn, yn eich annerch yn yr Arglwydd.

23Y mae Gaius fy lletywr i, a’r holl eglwys, yn eich annerch. Y mae Erastus, goruchwyliwr y ddinas, yn eich annerch, a’r brawd Cwartus.

24Gras ein Harglwydd Iesu Grist a fyddo gyda chwi oll. Amen.

25I’r hwn a ddichon eich cadarnhau yn ôl fy efengyl i, a phregethiad Iesu Grist, (yn ôl datguddiad y dirgelwch, yr hwn ni soniwyd amdano er dechreuad y byd;

26Ac yr awron a eglurwyd, a thrwy ysgrythurau’r proffwydi, yn ôl gorchymyn y tragwyddol Dduw, a gyhoeddwyd ymhlith yr holl genhedloedd, er mwyn ufudd-dod ffydd:)

27I Dduw yr unig ddoeth, y byddo gogoniant trwy Iesu Grist yn dragywydd. Amen. At y Rhufeiniaid yr ysgrifennwyd o Gorinth, gyda Phebe, gweinidoges yr eglwys yn Cenchrea.

← Llythyr Paul at y Rhufeiniaid 15Read In The App, Free →1 Corinthians 1 →

Study Llythyr Paul at y Rhufeiniaid 16

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeAlbert BarnesJohn WesleyJohn CalvinScofieldWilliam BurkittFamily Bible NotesJohn LightfootGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

12345678910111213141516