Llythyr Paul at y Rhufeiniaid 4:11
Ac efe a gymerth arwydd yr en¬waediad, yn insel cyfiawnder y ffydd, yr hon oedd ganddo yn y dienwaediad: fel y byddai efe yn dad pawb a gredent, yn y dienwaediad; fel y cyfrifid cyfiawnder iddynt hwythau hefyd:
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Read all of Llythyr Paul at y Rhufeiniaid 4
Cross References
Genesis 17:10Dyma fy nghyfammod a gedwch rhyngof fi a chwi, a’th had ar dy ol di: enwaedir pob gwrryw o honoch chwi.
Exodus 31:13Llefara hefyd wrth feibion Israel, gan ddywedyd, Dïau y cedwch fy Sabbathau: canys arwydd yw rhyngof fi a chwithau, trwy eich cenhedlaethau; i wybod mai myfi yw yr Arglwydd, sydd yn eich sancteiddio.
Deuteronomy 30:6A’r Arglwydd dy Dduw a enwaeda dy galon, a chalon dy had, i garu yr Arglwydd dy Dduw â’th holl galon, ac â’th holl enaid, er mwyn cael o honot fyw.
Ezekiel 20:20Sancteiddiwch hefyd fy Sabothau; fel y byddont yn arwydd rhyngof fi a chwithau, i wybod mai myfi yw yr AR¬GLWYDD eich Duw chwi.
Matthew 16:16A Simon Pedr a atebodd ac a ddywedodd, Ti yw’r Crist, Mab y Duw byw.
John 3:15Fel na choller pwy bynnag a gredo ynddo ef, ond caffael ohono fywyd tragwyddol.