The Bible Software
Llythyr Paul at y Rhufeiniaid · Beibl (1620)

Llythyr Paul at y Rhufeiniaid 6

1Beth wrth hynny a ddywedwn ni? a drigwn ni yn wastad mewn pechod, fel yr amlhao gras?

2Na ato Duw. A ninnau wedi meirw i bechod, pa wedd y byddwn byw eto ynddo ef?

3Oni wyddoch chwi, am gynifer ohonom ag a fedyddiwyd i Grist Iesu, ein bedyddio ni i’w farwolaeth ef?

4Claddwyd ni gan hynny gydag ef trwy fedydd i farwolaeth: fel megis ag y cyfodwyd Crist o feirw trwy ogoniant y Tad, felly y rhodiom ninnau hefyd mewn newydd-deb buchedd.

5Canys os gwnaed ni yn gydblanhigion i gyffelybiaeth ei farwolaeth ef, felly y byddwn i gyffelybiaeth ei atgyfodiad ef:

6Gan wybod hyn, ddarfod croeshoelio ein hen ddyn ni gydag ef, er mwyn dirymu corff pechod, fel rhag llaw na wasanaethom bechod.

7Canys y mae’r hwn a fu farw, wedi ei ryddhau oddi wrth bechod.

8Ac os buom feirw gyda Christ, yr ydym ni yn credu y byddwn byw hefyd gydag ef:

9Gan wybod nad yw Crist, yr hwn a gyfodwyd oddi wrth y meirw, yn marw mwyach; nad arglwyddiaetha marwol¬aeth arno mwyach.

10Canys fel y bu efe farw, efe a fu farw unwaith i bechod: ac fel y mae yn byw, byw y mae i Dduw.

11Felly chwithau hefyd, cyfrifwch eich hunain yn feirw i bechod: eithr yn fyw i Dduw, yng Nghrist Iesu ein Harglwydd.

12Na theyrnased pechod gan hynny yn eich corff marwol, i ufuddhau ohonoch iddo yn ei chwantau.

13Ac na roddwch eich aelodau yn arfau anghyfiawnder i bechod: eithr rhoddwch eich hunain i Dduw, megis rhai o feirw yn fyw; a’ch aelodau yn arfau cyfiawnder i Dduw.

14Canys nid arglwyddiaetha pechod arnoch chwi: oblegid nid ydych chwi dan y ddeddf, eithr dan ras.

15Beth wrth hynny? a bechwn ni, oherwydd nad ydym dan y ddedff, eithr dan ras? Na ato Duw.

16Oni wyddoch chwi, mai i bwy bynnag yr ydych yn eich rhoddi eich hunain yn weision i ufuddhau iddo, eich bod yn weision i’r hwn yr ydych yn ufuddhau iddo; pa un bynnag ai i bechod i farwolaeth, ynteu i ufudd-dod i gyfiawnder?

17Ond i Dduw y bo’r diolch, eich bod chwi gynt yn weision i bechod; eithr ufuddhau ohonoch o’r galon i’r ffurf o athrawiaeth a draddodwyd i chwi.

18Ac wedi eich rhyddhau oddi wrth bechod, fe a’ch gwnaethpwyd yn weision i gyfiawnder.

19Yn ôl dull dynol yr ydwyf yn dywedyd, oblegid gwendid eich cnawd chwi. Canys megis ag y rhoddasoch eich aelod¬au yn weision i aflendid ac anwiredd, i anwiredd; felly yr awr hon rhoddwch eich aelodau yn weision i gyfiawnder, i sancteiddrwydd.

20Canys pan oeddech yn weision pech¬od, rhyddion oeddech oddi wrth gyfiawn¬der.

21Pa ffrwyth gan hynny oedd i chwi y pryd hwnnw o’r pethau y mae arnoch yr awr hon gywilydd o’u plegid? canys diwedd y pethau hynny yw marwolaeth.

22Ac yr awr hon, wedi eich rhyddhau oddi wrth bechod, a’ch gwneuthur yn weisiod i Dduw, y mae i chwi eich ffrwyth yn sancteiddrwydd, a’r diwedd yn fywyd tragwyddol.

23Canys cyflog pechod yw marwolaeth; eithr dawn Duw yw bywyd trag¬wyddol, trwy Iesu Grist ein Harglwydd.

← Llythyr Paul at y Rhufeiniaid 5Read In The App, Free →Llythyr Paul at y Rhufeiniaid 7 →

Study Llythyr Paul at y Rhufeiniaid 6

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeAlbert BarnesJohn WesleyJohn CalvinScofieldWilliam BurkittFamily Bible NotesJohn LightfootGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

12345678910111213141516