Llythyr Paul at y Rhufeiniaid 8:26
A’r un ffunud y mae’r Ysbryd hefyd yn cynorthwyo ein gwendid ni. Canys ni wyddom ni beth a weddïom, megis y dylem: eithr y mae’r Ysbryd ei hun yn erfyn trosom ni ag ocheneidiau anhraethadwy.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
25Ond os ydym ni yn gobeithio’r hyn nid ŷm yn ei weled, yr ydym trwy amynedd yn disgwyl amdano.
Read all of Llythyr Paul at y Rhufeiniaid 8
Cross References
Psalms 6:3Yn fore, ARGLWYDD, y clywi fy llef; yn fore y cyfeiriaf fy ngweddi atat, ac yr edrychaf i fyny.
Psalms 10:17Y rhai drygionus a ymchwelant i uffem, a’r holl genhedloedd a anghofiant DDUW.
Psalms 55:1I’r Pencerdd ar Neginoth, Maschib Salm Dafydd, pan ddaeth y Siffiaid a dywedyd wrth Saul. Onid ydyw Dafydd yn ymguddio gyda ni? Achub fi, O DDUW, yn dy enw; a barn fi yn dy gadernid.
Psalms 77:1I’r Pencerdd ar Neginoth, Salm neu Gân Asaff. Hynod yw DUW yn Jwda; mawr yw ei enw ef yn Israel.
Psalms 102:5Torraf ymaith yr hwn a enllibio ei gymydog yn ddirgel: yr uchel o olwg, a’r balch ei galon, ni allaf ei ddioddef.