Llyfr Cyntaf Samuel 4:1
Yna Boas a aeth i fyny i’r porth, ac a eisteddodd yno. Ac wele y cyf¬athrachwr yn myned heibio, am yr hwn y dywedasai Boas. Ac efe a ddywedodd wrtho. Ho, hwn a hwn! tyred yn nes; eistedd yma. Ac efe a nesaodd, ac a eisteddodd.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
2Ac efe a gymerth ddengwr o henuriaid y ddinas, ac a ddywedodd, Eisteddwch yma. A hwy a eisteddasant.
Read all of Llyfr Cyntaf Samuel 4
Cross References
Genesis 19:1Godinebus fonedd Moab ac Ammon. A dau angel a ddaeth i Sodom yn yr hwyr, a Lot yn eistedd ym mhorth Sodom: a phan welodd Lot, efe a gyfododd i’w cyfarfod hwynt, ac a ymgrymmodd a’i wyneb tu a’r ddaear;
Deuteronomy 16:18¶ Gwna i ti farnwyr a blaenorion yn dy holl byrth, y rhai y mae yr Arglwydd dy Dduw yn eu rhoddi i ti trwy dy lwythau; a barnant hwy y bobl â barn gyfiawn.
Deuteronomy 21:19Yna ei dad a’i fam a ymaflant ynddo, ac a’i dygant at henuriaid ei ddinas, ac i borth ei drigfan;
Ruth 3:12Ac yn awr gwir yw fy mod i yn gyfathrachwr agos: er hynny y mae cyfathrachwr nes na myfi.
Job 31:21Os codais fy llaw yn erbyn yr amddi¬fad, pan welwn fy nghymorth yn y porth;
Amos 5:10Cas ganddynt a geryddo yn y porth, a ffiaidd ganddynt a lefaro yn berffaith.