The Bible Software
Llyfr Cyntaf Samuel · Beibl (1620)

Llyfr Cyntaf Samuel 4

1Yna Boas a aeth i fyny i’r porth, ac a eisteddodd yno. Ac wele y cyf¬athrachwr yn myned heibio, am yr hwn y dywedasai Boas. Ac efe a ddywedodd wrtho. Ho, hwn a hwn! tyred yn nes; eistedd yma. Ac efe a nesaodd, ac a eisteddodd.

2Ac efe a gymerth ddengwr o henuriaid y ddinas, ac a ddywedodd, Eisteddwch yma. A hwy a eisteddasant.

3Ac efe a ddywedodd wrth y cyfathrachwr, Y rhan o’r maes yr hon oedd eiddo ein brawd Elimelech a werth Naomi, yr hon a ddychwelodd o wlad Moab.

4A dywedais y mynegwn i ti, gan ddywedyd, Pryn ef gerbron y trigolion, a cherbron henuriaid fy mhobl. Os rhyddhei, rhyddha ef; ac oni ryddhei, mynega i mi, fel y gwypwyf: canys nid oes ond ti i’w ryddhau, a minnau sydd ar dy ôl di. Ac efe a ddywedodd, Myfi a’i rhyddhaf.

5Yna y dywedodd Boas, Y diwr nod y prynych di y maes o law Naomi, ti a’i pryni hefyd gan Ruth y Foabes, gwraig y marw, i gyfodi enw y marw ar ei etifeddiaeth ef.

6A’r cyfathrachwr a ddywedodd, Ni allaf ei ryddhau i mi, rhag colli fy eti¬feddiaeth fy hun: rhyddha di i ti dy hun fy rhan i; canys ni allaf fi ei ryddhau.

7A hyn oedd ddefod gynt yn Israel, am ryddhad, ac am gyfnewid, i sicrhau pob peth: Gŵr a ddiosgai ei esgid, ac a’i rhoddai i’w gymydog: a hyn oedd dystiolaeth yn Israel.

8Am hynny y dywedodd y cyfathrachwr wrth Boas, Prŷn i ti dy hun: ac efe a ddiosgodd ei esgid.

9A dywedodd Boas wrth yr henur¬iaid, ac wrth yr holl bobl, Tystion ydych chwi heddiw, i mi brynu yr hyn oll oedd eiddo Elimelech, a’r hyn oll oedd eiddo Chilion a Mahlon, o law Naomi.

10Ruth hefyd y Foabes, gwraig Mah¬lon, a brynais i mi yn wraig, i gyfodi enw y marw ar ei etifeddiaeth ef, fel na thorrer ymaith enw y marw o blith ei frodyr, nac oddi wrth borth ei fangre: tystion ydych chwi heddiw.

11A’r holl bobl y rhai oedd yn y porth, a’r henuriaid, a ddywedasant, Yr ydym yn dystion: Yr ARGLWYDD a wnelo y wraig sydd yn dyfod i’th dy di fel Rahel, ac fel Lea, y rhai a adeiladasant ill dwy dy Israel; a gwna di rymustra yn Effrata, bydd enwog yn Bethlehem:

12Bydded hefyd dy dŷ di fel tŷ Phares, yr hwn a ymddug Tamar i Jwda, o’r had yr hwn a ddyry yr ARGLWYDD i ti o’r llances hon.

13Felly Boas a gymerodd Ruth; a hi a fu iddo yn wraig: ac efe a aeth i mewn ati hi; a’r ARGLWYDD a roddodd iddi hi feichiogi, a hi a ymddug fab.

14A’r gwragedd a ddywedasant wrth Naomi, Bendigedig fyddo yr ARGLWYDD, yr hwn ni’th adawodd di heb gyfath¬rachwr heddiw, fel y gelwid ei enw ef yn Israel.

15Ac efe fydd i ti yn adferwr einioes, ac yn ymgeleddwr i’th benwynni: canys dy waudd, yr hon a’th gâr di, a blantodd iddo ef, a hon sydd well i ti na saith o feibion.

16A Naomi a gymerth y plentyn, ac a’i gosododd ef yn ei mynwes, ac a fu famaeth iddo.

17A’i chymdogesau a roddasant iddo enw, gan ddywedyd, Ganwyd mab i Naomi; ac a alwasant ei enw ef Obed: hwn oedd dad Jesse, tad Dafydd.

18Dyma genedlaethau Phares: Phares a genhedlodd Hesron, 4:l 9 A Hesron a genhedlodd Ram, a Ram a genhedlodd Aminadab,

19

20Ac Aminadab a genhedlodd Nahson a Nahson a genhedlodd Salmon,

21A Salmon a genhedlodd Boas, a Boas a genhedlodd Obed,

22Ac Obed a genhedlodd Jesse, a Jesse a genhedlodd Dafydd.

← Llyfr Cyntaf Samuel 3Read In The App, Free →1 Samuel 1 →

Study Llyfr Cyntaf Samuel 4

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

1234