Llyfr Sechareia 13:8
A bydd yn yr holl dir, medd yr ARGLWYDD, y torrir ymaith ac y bydd marw dwy ran ynddo; a'r drydedd a adewir ynddo.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Read all of Llyfr Sechareia 13
Cross References
Deuteronomy 28:49Yr Arglwydd a ddwg i’th erbyn genedl o bell, sef o eithaf y ddaear, mor gyflym ag yr eheda yr eryr, cenedl yr hon ni ddealli ei hiaith;
Isaiah 65:12Rhifaf chwithau i’r cleddyf, a chwi oll a ymostyngwch i’r lladdedigaeth: Alerwydd pan elwais chwi, nid atebasoch, pan leferais, ni wrandawsoch; ond gwnaethoch ddrygioni yn fy ngolwg, a dewisasoch yr hyn nid oedd dda gennyf. º
Isaiah 66:24A hwy a ânt allan, ac a edrychant ar gelanedd y rhai a wnaethant gamwedd i’m herbyn: canys eu pryf ni bydd marw, a’u tan ni ddiffydd; a byddant yn ffieidd-dra gan bob cnawd.
Ezekiel 5:2Traean a losgi yn tan yng nghanol y ddinas, pan gyflawner dyddiau y gwar¬chae; traean a gymeri hefyd, ac a'i trewi a'r gyllell o'i amgylch; a thraean a daeni gyda'r gwynt: a mi a dynnaf gleddyf at eu hoi hwynt.
Daniel 9:27Ac efe a sicrha y cyfamod â llawer dros un wythnos: ac yn hanner yr wythnos y gwna efe i’r aberth a’r bwyd-offrwm beidio; a thrwy luoedd ffiaidd yr anrheithia efe hi, hyd oni thywallter y diben terfynedig ar yr anrheithiedig.
Amos 9:8Wele lygaid yr ARGLWYDD ar y deyrnas bechadurus, a mi a’i difethaf oddi ar wyneb y ddaear: ond ni lwyr ddifethaf dŷ Jacob, medd yr ARGLWYDD.