The Bible Software
Llyfr Sechareia · Beibl (1620)

Llyfr Sechareia 13

1Y dydd hwnnw y bydd ffynnon wedi ei hagoryd i dy^ Dafydd, ac i breswylwyr Jerwsalem, i bechod ac aflendid.

2A bydd y dwthwn hwnnw, medd ARGLWYDD y lluoedd, i mi dorri enwau yr eilunod allan o'r tir, ac nis cofir hwynt mwyach; a gyrraf hefyd y proffwydi ac ysbryd aflendid o'r wlad.

3A bydd pan broffwydo un mwyach, y dywed ei dad a'i fam a'i cenedlasant ef wrtho, Ni chei fyw; canys dywedaist gelwydd yn enw yr ARGLWYDD: a'i dad a'i fam a'i cenedlasant ef a'i gwanant ef pan fyddo yn proffwydo.

4A bydd y dydd hwnnw, i'r proffwydi gywilyddio bob un am ei weledigaeth, wedi iddo broffwydo; ac ni wisgant grys o rawn i dwyllo:

5Ond efe a ddywed, Nid proffwyd ydwyf fi; llafurwr y ddaear ydwyf fi; canys dyn a'm dysgodd i gadw anifeiliaid o'm hieuenctid.

6A dywed un wrtho, Beth a wna y gwelïau hyn yn dy ddwylo? Yna efe a ddywed, Dyma y rhai y'm clwyfwyd â hwynt yn nhy^ fy ngharedigion.

7Deffro, gleddyf, yn erbyn fy mugail, ac yn erbyn y gw^r sydd gyfaill i mi, medd ARGLWYDD y lluoedd: taro y bugail, a'r praidd a wasgerir; a dychwelaf fy llaw ar y rhai bychain.

8A bydd yn yr holl dir, medd yr ARGLWYDD, y torrir ymaith ac y bydd marw dwy ran ynddo; a'r drydedd a adewir ynddo.

9A dygaf drydedd ran trwy y tân, a phuraf hwynt fel puro arian, a choethaf hwynt fel coethi aur: hwy a alwant ar fy enw, a minnau a'u gwrandawaf: dywedaf, Fy mhobl yw efe; ac yntau a ddywed, Yr ARGLWYDD yw fy NUW.

← Llyfr Sechareia 12Read In The App, Free →Llyfr Sechareia 14 →

Study Llyfr Sechareia 13

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

1234567891011121314