Llyfr Sechareia 4:2
Ac a ddywedodd wrthyf, Beth a weli di? A mi a ddywedais, Edrychais, ac wele ganhwyllbren i gyd o aur, a'i badell ar ei ben, a'i saith lusern arno, a saith o bibellau i'r saith lusern oedd ar ei ben ef;
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
1A’r angel yr hwn oedd yn ymddiddan â mi, a ddychwelodd, ac a'm deffrôdd, fel y deffroir un o'i gwsg,
3A dwy olewydden wrtho, y naill o'r tu deau i'r badell, a'r llall o'r tu aswy iddi.
Cross References
Exodus 37:17¶ Ac efe a wnaeth ganhwyllbren o aur coeth; o un dryll cyfan y gwnaeth efe y canhwyllbren, ei baladr, ei geingciau, ei bedyll, ei gnapiau, a’i flodau, oedd o’r un.
1 Kings 7:49A phum canhwyllbren o’r tu deau, a phump o’r tu aswy, o flaen y gafell, yn aur pur; a’r blodau, a’r llusernau, a’r gefeiliau, o aur;
2 Chronicles 4:7Ac efe a wnaeth ddeg canhwyllbren aur yn ôl eu portreiad, ac a’u gosododd yn y deml, pump o’r tu deau, a phump o’r tu aswy.
2 Chronicles 13:11Ac y maent hwy yn llosgi i’r AR¬GLWYDD boethoffrymau bob bore a phob hwyr, ac arogldarth peraidd; ac yn cadw trefn y bara gosod ar y bwrdd pur, a’r canhwyllbren aur a’i lampau, i losgi bob prynhawn: canys yr ydym ni yn cadw goruchwyliaeth yr ARGLWYDD ein Duw; ond chwi a’i gwrthodasoch ef.
Jeremiah 1:11Yna y daeth gair yr ARGLWYDD ataf, gan ddywedyd, Jeremeia, beth a weli di? Minnau a ddywedais, Gwialen almon a welaf fi.
Amos 7:8A’r ARGLWYDD a ddywedodd wrthyf, Beth a weli di, Amos? a mi a ddywedais, Llinyn. A’r ARGLWYDD a ddywedodd, Wele, gosodaf linyn yng nghanol fy mhobl Israel, ac ni chwanegaf fyned heibio iddynt mwyach.