The Bible Software
Llyfr Sechareia · Beibl (1620)

Llyfr Sechareia 4

1A’r angel yr hwn oedd yn ymddiddan â mi, a ddychwelodd, ac a'm deffrôdd, fel y deffroir un o'i gwsg,

2Ac a ddywedodd wrthyf, Beth a weli di? A mi a ddywedais, Edrychais, ac wele ganhwyllbren i gyd o aur, a'i badell ar ei ben, a'i saith lusern arno, a saith o bibellau i'r saith lusern oedd ar ei ben ef;

3A dwy olewydden wrtho, y naill o'r tu deau i'r badell, a'r llall o'r tu aswy iddi.

4A mi a atebais, ac a ddywedais wrth yr angel oedd yn ymddiddan â mi, gan ddywedyd, Beth yw y rhai hyn, fy arglwydd?

5A'r angel oedd yn ymddiddan â mi, a atebodd, ac a ddywedodd wrthyf. Oni wyddost beth yw y rhai yma? Yna y dywedais, Na wn, fy arglwydd.

6Ac efe a atebodd ac a ddywedodd wrthyf, gan ddywedyd, Hyn yw gair yr ARGLWYDD at Sorobabel, gan ddywedyd, Nid trwy lu, ac nid trwy nerth, ond trwy fy ysbryd, medd ARGLWYDD y lluoedd.

7Pwy wyt ti, y mynydd mawr? gerbron Sorobabel y byddi yn wastadedd, ac efe a ddwg allan y maen pennaf, gan weiddi, Rhad, rhad iddo.

8Daeth gair yr ARGLWYDD ataf drachefn, gan ddywedyd,

9Dwylo Sorobabel a sylfaenasant y ty^ hwn, a'i ddwylo ef a'i gorffen: a chei wybod mai ARGLWYDD y lluoedd a'm hebryngodd atoch.

10Canys pwy a ddiystyrodd ddydd y pethau bychain? canys llawenychant, a gwelant y garreg alcam yn llaw Sorobabel gyda'r saith hynny: llygaid yr ARGLWYDD ydynt, y rhai sydd yn cyniwair trwy yr holl ddaear.

11A mi a atebais ac a ddywedais wrtho, Beth yw y ddwy olewydden hyn, ar y tu deau i'r canhwyllbren, ac ar ei aswy?

12A mi a atebais drachefn, ac a ddywedais wrtho, Beth yw y ddau bincyn olewydden, y rhai trwy y ddwy bibell aur sydd yn tywallt allan ohonynt eu hunain yr olew euraid?

13Ac efe a lefarodd wrthyf, gan ddywedyd, Oni wyddost ti beth yw y rhai hyn? A dywedais, Na wn, fy arglwydd.

14Ac efe a ddywedodd, Dyma y ddwy gainc olewydden sydd yn sefyll gerbron ARGLWYDD yr holl ddaear.

← Llyfr Sechareia 3Read In The App, Free →Llyfr Sechareia 5 →

Study Llyfr Sechareia 4

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

1234567891011121314