Llyfr Sechareia 5:9
A chyfodais fy llygaid, ac edrychais; ac wele ddwy wraig yn dyfod allan, a gwynt yn eu hesgyll; canys esgyll oedd ganddynt fel esgyll y ciconia: a chyfodasant yr effa rhwng y ddaear a'r nefoedd.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
10Yna y dywedais wrth yr angel oedd yn ymddiddan â mi, I ba le y mae y rhai hyn yn myned a'r effa?
Cross References
Leviticus 11:19A’r ciconia, a’r crŷr yn ei ryw, a’r gornchwigl, a’r ystlum.
Daniel 9:26Ac wedi dwy wythnos a thrigain y lleddir y Meseia, ond nid o’i achos ei hun: a phobl y tywysog yr hwn a ddaw a ddinistria y ddinas a’r cysegr; a’i ddiwedd fydd trwy lifeiriant, a hyd diwedd y rhyfel y bydd dinistr anrheithiol.
Matthew 24:28Canys pa le bynnag y byddo’r gelain, yno yr ymgasgl yr eryrod.