The Bible Software
Llyfr Sechareia · Beibl (1620)

Llyfr Sechareia 5

1Yna y troais, a chodais fy llygaid, ac edrychais; ac wele blyg llyfr yn ehedeg.

2Ac efe a ddywedodd wrthyf, Beth a weli di? A dywedais. Mi a welaf blyg llyfr yn ehedeg, a'i hyd yn ugain cufydd, a'i led yn ddeg cufydd.

3Ac efe a ddywedodd wrthyf, Dyma y felltith sydd yn myned allan ar wyneb yr holl ddaear: canys pob un a ladrato, a dorrir ymaith fel o'r tu yma, yn ei hôl hi; a phob un a dyngo, a dorrir ymaith fel o'r tu acw, yn ei hôl hi.

4Dygaf hi allan, medd ARGLWYDD y lluoedd, a hi a ddaw i dy^ y lleidr, ac i dy^ y neb a dyngo i'm henw i ar gam: a hi a erys yng nghanol ei dy^ ef, ac a'i difa ef, a'i goed, a'i gerrig.

5Yna yr angel oedd yn ymddiddan â mi, a aeth allan, ac a ddywedodd wrthyf, Cyfod yn awr dy lygaid, ac edrych beth yw hyn sydd yn myned allan.

6A mi a ddywedais, Beth ydyw? Ac efe a ddywedodd, Effa ydyw, sydd yn myned allan. Ac efe a ddywedodd, Dyma eu gwelediad yn yr holl ddaear.

7Ac wele dalent o blwm wedi ei godi i fyny: a dyma wraig yn eistedd yng nghanol yr effa.

8Ac efe a ddywedodd, Anwiredd yw hon. Ac efe a'i taflodd hi i ganol yr effa, a bwriodd y pwys plwm ar ei enau ef.

9A chyfodais fy llygaid, ac edrychais; ac wele ddwy wraig yn dyfod allan, a gwynt yn eu hesgyll; canys esgyll oedd ganddynt fel esgyll y ciconia: a chyfodasant yr effa rhwng y ddaear a'r nefoedd.

10Yna y dywedais wrth yr angel oedd yn ymddiddan â mi, I ba le y mae y rhai hyn yn myned a'r effa?

11Dywedodd yntau wrthyf, I adeiladu iddi dy^yng ngwlad Sinar: a hi a sicrheir, ac a osodir yno ar ei hystôl ei hun.

← Llyfr Sechareia 4Read In The App, Free →Llyfr Sechareia 6 →

Study Llyfr Sechareia 5

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

1234567891011121314