Ail Lyfr y Cronicl 15:2
A Dafydd a ddywedodd, Nid yw i neb ddwyn arch Duw, ond I’r Lefiaid: canys hwynt a ddewisodd yr ARGLWYDD i ddwyn arch Duw, ac i weini iddo ef yn dragywydd. º
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
1Adafydd a wnaeth iddo dai yn ninas Dafydd, ac a baratodd le i arch Duw, ac a osododd iddi babell.
Read all of Ail Lyfr y Cronicl 15
Cross References
Numbers 3:6Nesâ lwyth Lefi, a gwna iddo sefyll ger bron Aaron yr offeiriad, fel y gwasanaethont ef.
Numbers 4:2Cymmer nifer meibion Cohath o blith meibion Lefi, wrth eu teuluoedd, yn ol tŷ eu tadau;
Numbers 4:19Ond hyn a wnewch iddynt, fel y byddont fyw, ac na fyddont feirw, pan nesânt at y pethau sancteiddiolaf: Aaron a’i feibion a ânt i mewn, ac a’u gosodant hwy bob un ar ei wasanaeth ac ar ei glud.
Numbers 8:13A gosod y Lefiaid gerbron Aaron, a cher bron ei feibion, ac offrwm hwynt yn offrwm i’r Arglwydd.
Numbers 18:1Rhoddi yr offrwm dyrchafael i’r offeiriaid allan o ran y Lefiaid. A dywedodd yr Arglwydd wrth Aaron, Tydi a’th feibion, a thylwyth dy dad gyd â thi, a ddygwch anwiredd y cyssegr: a thi a’th feibion gyd â thi a ddygwch anwiredd eich offeiriadaeth.
Deuteronomy 31:9¶ A Moses a ysgrifenodd y gyfraith hon, ac a’i rhoddes at yr offeiriaid meibion Lefi, y rhai a ddygent arch cyfammod yr Arglwydd, ac at holl henuriaid Israel.