The Bible Software
Ail Lyfr y Cronicl · Beibl (1620)

Ail Lyfr y Cronicl 15

1Adafydd a wnaeth iddo dai yn ninas Dafydd, ac a baratodd le i arch Duw, ac a osododd iddi babell.

2A Dafydd a ddywedodd, Nid yw i neb ddwyn arch Duw, ond I’r Lefiaid: canys hwynt a ddewisodd yr ARGLWYDD i ddwyn arch Duw, ac i weini iddo ef yn dragywydd. º

3A Dafydd a gynullodd holl Israel i Jerwsalem, i ddwyn i fyny arch yr ARGLWYDD i’w lle a baratoesai efe iddi hi. º

4A Dafydd a gynullodd feibion Aaron, a’r Lefiaid. º

5O feibion Cohath; Uriel y pennaf, a’i frodyr, cant ac ugain. º

6O feibion Merari; Asaia y pennaf, a’i frodyr, dau cant ac ugain. º

7O feibion Gersom; Joel y pennaf, a’i frodyr, cant a deg ar hugain. º

8O feibion Elisaffan; Semaia y pennaf, a’i frodyr, dau cant. º

9O feibion Hebron; Eliel y pennaf, a’i frodyr, pedwar ugain. º

10O feibion Ussiel; Amminadab y pennaf, a’i frodyr, cant a deuddeg. º

11A Dafydd a alwodd am Sadoc ac am Abiathar yr offeiriaid, ac am y Lefiaid, am Uriel, Asaia, a Joel, Semaia, ac Eliel, ac Amminadab, º

12Ac a ddywedodd wrthynt, Chwi sydd bennau-cenedl ymhlith y Lefiaid: ymsancteiddiwch chwi a’ch brodyr, fel y dygoch i fyny arch ARGLWYDD DDUW Israel i’r lle a baratoais iddi hi. º

13Oherwydd nas gwnaethoch o’r dech-reuad, y torrodd yr ARGLWYDD ein Duw arnorn ni, oblegid na cheisiasom ef yn y modd y dylasem. º

14Felly yr offeiriaid, a’r Lefiaid a ymsancteiddiasant i ddwyn i fyny arch ARGLWYDD DDUW Israel. º

15A meibion y Lefiaid a ddygasant arch Duw ar eu hysgwyddau, wrth drosolion, megis y gorchmynnodd Moses, yn ôl gair yr ARGLWYDD. º

16A Dafydd a ddywedodd wrth dywysogion y Lefiaid, ar iddynt osod eu brodyr y cerddorion i leisio ag offer cerdd, nablau, a thelynau, a symbalau, yn lleisio gan ddyrchafu llef mewn gorfoledd. º

17Felly y Lefiaid a osodasant Heman mab Joel; ac o’i frodyr ef Asaff mab Berecheia; ac o feibion Merari eu brodyr, Ethan mab Cusaia. º

18A chyda hwynt eu brodyr o’r ail radd, Sechareia, Ben, a Jaasiel, a Semira-moth, a Jehiel, ac Unni, Eliab, a Benaia, a Maaseia, a Matitheia, ac Eliffele, a Micneia, ac Obededom, a Jehiel, y porthorion. º

19Felly Heman, Asaff, ac Ethan, y cerddorion, oeddynt i leisio a symbalau pres. º

20A Sechareia, ac Asiel, a Semiramoth, a Jehiel, ac Unni, ac Eliab, a Maaseia, a Benaia, a ganent nablau ar Alamoth. º

21A Matitheia, ac Eliffele, a Micneia, ac Obededom, a Jehiel, ac Asaseia, oeddynt a thelynau ar y Seminith i ragori. º

22Chenaneia hefyd oedd flaenor y Lefiaid ar y gan: efe a ddysgai eraill am y gan, canys cyfarwydd ydoedd. º

23A Berecheia ac Elcana oedd borthorion i’r arch. º

24A Sebaneia, a Jehosaffat, a Nathaneel, ac Amasai, a Sechareia, a Benaia, ac Elieser, yr offeiriaid, oedd yn lleisio mewn utgyrn o flaen arch Duw: Obededom hefyd a Jeheia oedd borthorion i’r arch. º

25Felly Dafydd a henuriaid Israel, a thywysogion y miloedd, a aethant i ddwyn i fyny arch cyfamod yr AR¬GLWYDD o dŷ Obededom mewn llawenydd. º

26A phan gynorthwyodd Duw y Lefiaid oedd yn dwyn arch cyfamod yr ARGLWYDD, hwy a offrymasant saith o fustych, a saith o hyrddod. º

27A Dafydd oedd wedi ymwisgo mewn gwisg o liain main; a’r holl Lefiaid, y rhai oedd yn dwyn yr arch, a’r cantorion, Chenaneia hefyd meistr y gan, a’r cerddorion. Ac am Dafydd yr oedd effod liain. º

28A holl Israel a ddygasant i fyny arch -cyfamod yr ARGLWYDD a bloedd, â llais trwmped, ag utgyrn, ac â symbalau, yn lleisio gyda’r nablau a’r telynau. º

29A phan ydoedd arch cyfamod yr ARGLWYDD yn dyfod i ddinas Dafydd, Michal merch Saul a edrychodd trwy ffenestr, ac a ganfu Dafydd y brenin yn dawnsio ac yn chwarae: a hi a’i dirmygodd ef yn ei chalon.

← Ail Lyfr y Cronicl 14Read In The App, Free →Ail Lyfr y Cronicl 16 →

Study Ail Lyfr y Cronicl 15

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

1234567891011121314151617181920212223242526272829