Llyfr Numeri 18:1
Rhoddi yr offrwm dyrchafael i’r offeiriaid allan o ran y Lefiaid. A dywedodd yr Arglwydd wrth Aaron, Tydi a’th feibion, a thylwyth dy dad gyd â thi, a ddygwch anwiredd y cyssegr: a thi a’th feibion gyd â thi a ddygwch anwiredd eich offeiriadaeth.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Exodus 28:38A hi a fydd ar dalcen Aaron, fel y dygo Aaron anwiredd y pethau sanctaidd a gyssegro meibion Israel yn eu holl roddion sanctaidd: ac yn wastad y bydd ar ei dalcen ef, fel y byddo iddynt ffafr ger bron yr Arglwydd.
Numbers 14:34Yn ol rhifedi y dyddiau y chwiliasoch y tir, sef deugain niwrnod, (pob diwrnod am flwyddyn,) y dygwch eich hanwireddau, sef deugain mlynedd; a chewch wybod toriad fy ngair i.
Numbers 17:7A Moses a adawodd y gwïail ger bron yr Arglwydd, ym mhabell y dystiolaeth.
Numbers 18:22Ac na ddeued meibion Israel mwyach yn agos i babell y cyfarfod; rhag iddynt ddwyn pechod, a marw.
Isaiah 53:11O lafur ei enaid y gwêl, ac y diwellir: fy ngwas cyfiawn a gyfiawnha lawer trwy ei wybodaeth; canys efe a ddwg eu hanwireddau hwynt. º
Acts 20:26Oherwydd paham yr ydwyf yn tystio i chwi y dydd heddiw, fy mod i yn lân oddi wrth waed pawb oll: