Ail Lyfr y Cronicl 23:13
Meibion Amram oedd, Aaron a Moses; ac Aaron a neilltuwyd i sanct-eiddio y cysegr sancteiddiolaf, efe a’i feibion byth, i arogldarthu gerbron yr ARGLWYDD, i’w wasanaethu ef, ac i fendigo yn ei enw ef yn dragywydd. º
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
12Meibion Cohath; Amram, Ishar, Hebron, ac Ussiel, pedwar. º
14A Moses gŵr Duw, ei feibion ef a alwyd yn llwyth Lefi. º
Read all of Ail Lyfr y Cronicl 23
Cross References
Exodus 28:1Gwisgoedd meibion Aaron. A chymmer Aaron dy frawd attat, a’i feibion gyd âg ef, o blith meibion Israel, i offeiriadu i mi; sef Aaron, Nadab ac Abihu, Eleazar ac Ithamar, meibion Aaron.
Exodus 29:33A hwy a fwyttânt y pethau hyn y gwnaed y cymmod â hwynt, i’w cyssegru hwynt ac i’w sancteiddio: ond y dïeithr ni chaiff eu bwytta; canys cyssegredig ydynt.
Exodus 30:6A gosod hi o flaen y wahanlen sydd wrth arch y dystiolaeth; o flaen y drugareddfa sydd ar y dystiolaeth, lle y cyfarfyddaf â thi.
Exodus 40:9A chymmer olew yr enneiniad, ac enneinia y tabernacl, a’r hyn oll sydd ynddo, a chyssegra ef a’i holl lestri; a sanctaidd fydd.
Leviticus 10:1Esgus Aaron am ei throseddu. Yna Nadab ac Abihu, meibion Aaron, a gymmerasant bob un ei thusser, ac a roddasant dân ynddynt, ac a osodasant arogl-darth ar hynny; ac a offrymmasant ger bron yr Arglwydd dân dïeithr yr hwn ni orchymynasai efe iddynt.
Leviticus 10:17Paham na fwyttasoch yr aberth dros bechod yn y lle sanctaidd; o herwydd sancteiddiolaf yw, a Duw a’i rhoddodd i chwi, i ddwyn anwiredd y gynnulleidfa, gan wneuthur cymod drostynt, ger bron yr Arglwydd?