Ail Lyfr y Cronicl 23
1A phan oedd Dafydd yn hen, ac yn llawn o ddyddiau, efe a osododd Solomon ei fab yn frenin ar Israel. º
2Ac efe a gynullodd holl dywysogion Israel, a’r offeiriaid, a’r Lefiaid. º
3A’r Lefiaid a gyfrifwyd o fab deng mlwydd ar hugain, ac uchod: a’u nifer hwy wrth eu pennau, bob yn ŵr, oedd onid dwy fil deugain. º
4O’r rhai yr oedd pedair mil ar hugain i oruchwylio ar waith tŷ yr ARGLWYDD, ac yn swyddogion, ac yn farnwyr, chwe mil: º
5A phedair mil yn borthorion, a phedair mil yn moliannu yr ARGLWYDD a’r offer a wnaethwn i, ebe Dafydd, i foliannu. º
6A dosbarthodd Dafydd hwynt yn ddosbarthiadau ymysg meibion Lefi, sef Gerson, Cohath, a Merari. º
7O’r Gersoniaid yr oedd Laadan a Simei. º
8Meibion Laadan; y pennaf Jehiel, a Setham, a Joel, tri. º
9Meibion Simei; Selomith, a Hasiel, a Haran, tri. Y rhai hyn oedd bennau-cenedl Laadan. º
10Meibion Simei hefyd oedd, Jahath, Sina, a Jeus, a Bereia. Dyma bedwar mab Simei. º
11A Jahath oedd bennaf, a Sisa yn ail: ond Jeus a Bereia nid oedd nemor o feibion iddynt; am hynny yr oeddynt hwy yn un cyfrif wrth dy eu tad. º
12Meibion Cohath; Amram, Ishar, Hebron, ac Ussiel, pedwar. º
13Meibion Amram oedd, Aaron a Moses; ac Aaron a neilltuwyd i sanct-eiddio y cysegr sancteiddiolaf, efe a’i feibion byth, i arogldarthu gerbron yr ARGLWYDD, i’w wasanaethu ef, ac i fendigo yn ei enw ef yn dragywydd. º
14A Moses gŵr Duw, ei feibion ef a alwyd yn llwyth Lefi. º
15Meibion Moses oedd, Gersom ac Elieser. º
16O feibion Gersom; Sebuel oedd y pennaf. º
17A meibion Elieser oedd, Rehabia y cyntaf. Ac i Elieser nid oedd meibion eraill; ond meibion Rehabia a amlhasant yn ddirfawr. º
18O feibion Ishar; Selomith y pennaf. º
19O feibion Hebron; Jereia y cyntaf, Amareia yr ail, Jahasiel y trydydd, a Jecameam y pedwerydd. º
20O feibion Ussiel; Micha y cyntaf, a Jeseia yr ail. º
21Meibion Merari oedd, Mahli a Musi. Meibion Mahli; Eleasar a Chis. º
22A bu farw Eleasar, a meibion nid oedd iddo ef, ond merched; a meibion Cis eu brodyr a’u priododd hwynt. º
23Meibion Musi; Mahli, ac Eder a Jenmoth, tri. º
24Dyma feibion Lefi, yn ôl tŷ eu tadau, pennau eu cenedl, wrth eu rhifedi, dan nifer eu henwau wrth eu pennau, y rhai oedd yn gwneuthur y gwaith i wasanaeth tŷ yr Arglwydd, o fab ugain mlwydd ac uchod. º
25Canys dywedodd Dafydd, Arglwydd Dduw Israel a roddes lonyddwch i’w bobl, i aros yn Jerwsalem byth; º
26A hefyd i’r Lefiaid: ni ddygant mwyach y tabernacl, na dim o’i lestri, i’w wasanaeth ef. º
27Canys yn ol geiriau diweddaf Dafydd y cyfrifwyd meibion Lefi, o fab ugain mlwydd ac uchod: º
28A’u gwasanaeth hwynt oedd i fod wrth law meibion Aaron yng ngweinidogaeth tŷ yr Arglwydd, yn y cynteddau, ac yn y celloedd, ac ym mhuredigaeth pob sancteiddbeth, ac y'ngwaith gweinidogaeth tŷ Dduw; º
29Yn y bara gosod hefyd, ac ym mheilliaid y bwyd-offrwm, ac yn y teisenau croyw, yn y radell hefyd, ac yn y badell ffrïo, ac ym mhob mesur a meidroldeb: º
30Ac i sefyll bob bore i foliannu ac i ogoneddu yr Arglwydd, felly hefyd brydnawn: º
31Ac i offrymmu pob offrwrn poeth i’r Arglwydd ar y Sabbathau, ar y newydd-loerau, ac ar y gwyliau gosodedig, wrth rifedi, yn ol y ddefod sydd arnynt yn wastadol gerbron yr Arglwydd: º
32Ac i gadw goruchwyliaeth pabell y cyfarfod, a goruchwyliaeth y cyssegr, a goruchwyliaeth meibion Aaron eu brodyr, y'ngwasanaeth tŷ yr Arglwydd.